Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

136 COFIANT

" Af yn awr i fan eirian — golygaf O glogwyn eglurlan, Nes gwel'd yr holl ddinas t:àn, Y celloedd mewa ac allan."

Defnyddiwyd y gair " eirian " yn gwbl er mwyn cynghanedd, ac y mae y bardd fel pe byddai yn gweled ei gamgymeriad, an yn yradrecliu cael ansodd- air mwy priodol yn yr ail linell, allwyddasaiyn ddiau pe na buasai eisieu y terfyniad an i odli gyda'r llinell flaenorol. Ologwyn eglur a feddyliai y bardd, ac nid clogwyn ag yr oedd ei lendid yn eglur. Maey llinell olaf yn fwy gwallus fyth. Pa fodd y gallai y bardd weled y celloedd oddi mewn, tra yn edrych ar y ddinas o ben mynydd neu "glogwyn?" Yn nghorff y deu- gain llinell gyntaf o'r Awdl, cyfarfyddwn ag amry w ailadroddiadau poenus. Mae y ddinas yn " oludog " yn y pumed englyn, ac ý mae yn " ddinas oludog," ac yn " ddinas arianog," yn y penill dilynol. Dech- reuir yr Hir a Thoddaid cyntaf drwy son am " hoff balasau " y ddinas, ac ni therfynir y penill agosaf ato heb ddweyd ei bod yn " llawn o balasau." Mae " yr hen bau " yn "sicr ei seiliau" yn yr Englyn cyntaf, yn " gref iawn " yn yr ail Englyn, ac yn " alluog " yn fuan iawn wedi hyny. Cysylltir pethau tra an- mherthynasol, er mwyn cynghauedd, megys, —

" Dawnus lywiawdwyr, diaas oludog, Ei berthawg rannu, hen byrtk gorenwog."

Nid ydyw yr Awdl yn Ian oddiwrth yr hyn sydd yn sicr o ddifa nerth unrhyw gyfansoddiad, sef geiriau llanw. Mae y tair llinell rigymol a ganlyn yn dig- wydd yn olynol yn yr Hir a Thoddaid cyntaf : —

" Muriau diadwy, ! raor odidog ! Addien serenawl ddinas arianog, Cywrain a llawen, ceir bi'n alluog."