Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 149

odid, ycbydig yn fwy llachar na rhanau eraill. Yma y canfyddwn arucheledd Eben yn uchder ei danbeid- rwydd. Fflachia yn rymus ddigon mewn rhanau o " Ddinystr Jerusalem," a Uysg yn fwy sicr, eang, a pharhaol yn "Job';" ond yn yr " Adgyfodiad " y llosga yn ei lawn rym, ac yr arddengys gyflawnder diysbydd ei adnoddau aruthroL Dy wedai un beirniad mai bai y Bryddest hon oedd ei bod yn rhy farddonol — ei bod fel darlun hardd heb ymylgoed (frame) o'i gwmpas ; ac y buasai y cyfansoddiad yn arddangos mwy o amrywiaeth, ac y gallesid rawynhau ei geinion yn well, pe buasai yn cynwys arabell ddernyn lied ryddieithol, yn lie bod yn farddoniaeth danllyd i gyd; a bydd pob un a ddarlleno y gwaith yn ystyriol yn barod i addef fod llawer o wirionedd yn y sylw. Wrth amcanu dethol darnau i'w dyfynu, y mae lliaws o adranau tlysion yn ymgynyg i'n meddwl yr un pryd, nes yr ydym yn ymddyrysu mewn petrusder. Antur- iwn, pa fodd bynag, ddyfynu rban o ddesgriflad nerthol yr awdwr o am gy lchiadau cynhyrfus y dydd olaf. Nid ydym yn cofìo i ni erioed ddarllen llinellau cryfach na'r rhai canlynol :—

"Uwch ben, yr oedd berw svfrdanol ordyrfuu Yn boddi diaspad can' mil o daranau, Mai pe gwrthdarawsai holl Alp*u Caergwydion ! A'r naill dros y Hall yn ymddryllio yn deilchion ! Neu fal pe rhuthrasai gwrthfydoedd yr entyreh Yn erbyn eu giJydd, mewn digllon gydymgyrch, Nes tori'n falurion ser-adail y nefoedd, A dymchwel ei adfail i'r hylwnc ddyfnderoedd ! Trwy leni y caddug, aruthrol oedd gweled Y ser fel yn syrtbìo ar ddidro i wared ; A'r ddaear fel meddwyn yn sislo yn benrhydd, A'i phegwn yn rhoncian hyd ddrylliog wybrenydd ; A'i holl fewn-ategion yn lleth dori'n freuol, (ran danbaid ysgytiad o'i chant hyd ei chanol !