Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IOAN YN YNYS PATMOS.

"Mortals that would follow me,
Love Virtue, she alone is free,
She can teach you how to climb
Higher than the sphery chime;
Or if Virtue feeble were,
Heav'n itself would stoop to her."
——MILTON.


RHAGARAWD.

A oes blaned ysblenydd,
Draw ar daith hyd oror dydd,
Mor hardd, wrth roi mawr urddas,
O'i bron loew, i'r wybren las,
A'r hwn geid fel seren gu
Ryw nos yn wybren Iesu—
Yr Eglwys—tra pheryglon
Am syflyd ei fryd a'i frou?
Nis gallai terfysg hyllig,
A chawod oer och a dig;
Neu lu llawn cymylau llid
Yn llifo gan hyll ofid;
Guddiaw dysglaer agweddion
A rhin hardd y seren hon.

Na! yr oedd goleuni'r haul
Ddyrydd i'r nefoedd araul
Gu lewyrch, wedi gloewi
Yn dra hardd ei phelydr hi,
Mal na cheid amleni chwai
Na chaddug a'i gorchuddiai.


Ei golau—tra'n gwau drwy'r gwyll,
Döai ein daiar dywyll—
Wnai i isel ynysig
Dylawd iawn, fel adail dig,