Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyflawn yn ein hiaith, y mae genym ddigon o farddoniaeth dramayddol. Fe'i ceir ar fesur rhydd mewn cyflawnder yn ngwaith Twm o'r Nant, ac ar y mesur cynghaneddol yn ngwaith D. ab Gwilym, a hen feirdd eraill. Ond y trydydd rheswm, a'r rheswm cryfaf, a'm cymhellodd i fabwysiadu y dull ddramayddol ydoedd, am y tybiwn fod y ffurf hon yn fwy cydweddol nag un ffurf arall â chân ddyrchafedig Ioan. Er fod llawer o ddadleu wedi bod mewn perthynas i'r dosparth o farddoniaeth y perthynai Llyfr y Datguddiad iddo, eto barnai awdwyr tra galluog ei fod fel cyfansoddiad yn perthyn mwy i'r dosparth dramayddol nag i un dosparth arall.

Wrth ddyfynu rhanau o'r Datguddiad, dilynais y drefn Ysgrythyrol, heblaw mewn rhai eithriadau, lle y bernais mai doethach oedd newid ychydig ar y cyflead, tra yn gofalu hyd y gallwn am beidio cyfnewid y syniadau.

Dechreuais gyfansoddi yr awdl gan deimlo yn awyddus i ysgrifenu cyfansoddiad ag a allai gael ei ystyried yn deilwng o gael ei wobrwyo â phrif anrhydedd barddol fy nghenedl, sef Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond wedi i mi ysgrifenu oddeutu cant o linellau, ymgollodd y teimlad uchelfrydig hwnw mewn teimlad arall nas gallaf ei ddesgrifio. Teimlwn fel un yn edrych ar deml ddisglaer a gogoneddus, a thybiwn fy mod, dan ddylanwad y teimlad perlewygol hwnw, yn adeiladu tŵr bychan a syml o ben yr hwn y gallwn gael cipdrem hyfryd ar furiau aur a phinaclau perlawg y deml fawreddog, yr hon a ddisgleiriai yn anwyl ger fy mron dan belydrau digreedig Haul Cyfiawnder: ac mor deg oedd yr olygfa ues y'm gorfodid ambell dro i syrthio fel y pedwar henuriad ar hugain ger bron yr orseddfainc wen fawr, gan addoli yr Hwn sydd yn eistedd arni.

Os bydd i'r Awdl ganlynol fod yn foddion, dan fendith Duw, i gynorthwyo fy nghydgenedl, yn y radd leiaf, i weled mawredd amyneddgar a thawel arwr cystuddiedig Patmos, ac i weled ardderchogrwydd diguro a gwerth anmhrisiadwy "Datguddiad Iesu Grist," bydd wedi cyrhaedd amcan llawer uwch nag enill cadair farddol Cymru yn Eisteddfod Llandudno, er cymaint anrhydedd fyddai hyny; a byddaf finau wedi fy nghyflawn wobrwyo.

Mehefin 20fed, 1864.YR AWDWR.