Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IOAN YN YNYS PATMOS.

Sef Awdl ar ddull Drama, gan "Baracel," sef Mr. R. Ffoulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd.)

Awdl Gadeiriol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1864.

AT Y DARLLENYDD.

Ar ol darllen mwy na mwy o esboniadau ar Lyfr y Datguddiad, yr oeddwn yn eu cael mor groes i'w gilydd, fel nad oeddwn rhyw lawer doethach ar ol eu darllen nag oeddwn cyn hyny; ac yr oedd y rhan fwyaf o lawer o'r awdwyr a ddarllenais yn esbonio y bryddest aruchel hon fel pe buasent heb erioed ddychymygu mai barddoniaeth ydoedd, neu fel pe buasent am ddwyn y darllenydd o'i amryfusedd drwy ddangos iddo mai rhyddiaeth syml, ac nid yr hyn a dybiai efe yn farddoniaeth o'r radd uchaf, ydoedd Llyfr y Datguddiad. Yn ngwyneb hyn perderfynais gymeryd y llyfr yn gwbl fel yr oedd, yn annibynol ar yr holl esboniadau lluosog ac amrywiol a ysgrifenwyd arno o bryd i bryd, Y mae hanes Ioan yn Ynys Patmos yn dra thywyll ac ansicr. Ymddengys, pa fodd bynag, mai y farn fwyaf gyffredin ydyw, i Ioan gael ei alltudio i Ynys Patmos drwy orchymyn Domitian, tua diwedd teyrnasiad yr ymerawdwr erlidgar hwnw; iddo gael ei ollwng yn rhydd yn nechreu teyrnasiad yr ymerawdwr dilynol, sef Nerva, ac iddo dreulio gweddill ei oes yn Ephesus. Dywed hen hanesion eglwysig y gorfodid ef i weithio yn y mwngloddiau, er ei fod ar y pryd mewn oedran mawr, ac, o ganlyniad, yn dra egwan a nychlyd. Mynegir gan draddodiad ddarfod iddo dderbyn ac ysgrifenu y Datguddiad mewn ogof yn yr ynys. Cymerir yn ganiataol yn y cyfansoddiad dilynol fod y mynegiadau uchod yn gywir.

Mewn perthynas i ffurf y cyfansoddiad, yr oedd tri pheth yn fy nhueddu i wneyd defnydd o'r dull dramayddol. Yn gyntaf, am y byddai awdl ar ddull Drama yn beth newydd yn y Gymraeg. Nid wyf yn gwybod ond am un Ddrama gyflawn yn ein hiaith, ac ysgrifenwyd hono yn y mesurau rhyddion. Yn ail, tueddwyd fi i fabwysiadu y dull hwn, oherwydd nad ydyw yn ddull an-Nghymreigaidd; nid ydyw, fel neillduolion mydraeth, yn perthyn i ryw genedl neu genedloedd yn unig; ond yn sylfaenedig ar egwyddorion sy'n gyffredin i'r natur ddynol yn mhob gwlad ac oes. Os nad oes genym ond un Ddrama