Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod wedi codi cof-golofn annhraethol well yn ystod ei fywyd, er mai nid hyny oedd ei amcan; cof-golofn fydd ar gael tra clywir son am "Gymru, Cymro, a Chymraeg." Mae yn anmhosibl mynegu pa faint o ddaioni a wnaeth i'w wlad fel dyn cyhoeddus; ac i goroni y cyfan, gellir dweyd yn ddibetrus, yn ei eiriau ef ei hun amarall, fod ei waith a'i fywyd "yn dwyn arnynt nodau hawddgar Bardd Cristionogol a bonedd- igaidd." Gellir dywedyd am dano, fel y dywedwyd am Addison o'i flaen, na buasai raid iddo wrth farw ddymuno dileu yr un linell a ysgrifenodd yn ystod ei fywyd. Parhaed beirdd a llenorion ein gwlad i ed- mygu ei gymeriad dysglaer, gan benderfynu dilyn ei esiampl bur, fel y byddo eu buchedd yn gysur iddynt hwy eu hunain, yn fendith i'w cyd-ddynion, ac yn addurn i'w gwlad.

"GWYNEDDWR,"

Sef Mr. R. Ffoulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd).