Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffafriol atom ni, barnasom mai gwell oedd peidio ei gyhoeddi o gwbl. Ar ol meddwl eilwaith am y peth, ac wrth ystyried fod y llythyr yn bwysig, yn ei gys— ylltiad â'r bardd, oherwydd ei fod yn amlygu rhyw gymaint o'i brofiad duwiol mewn profedigaethau chwerwon, tueddir ni i gredu, ar y cyfan, mai ein dyledswydd yw ei gyhoeddi. Fe'i dyfynwn yn hollol fel y cafodd ei ysgrifenu:—"

Clynnog Fawr,
17 Decr., 1858.

"GAREDIG SYR,—

"Yr wyf yn dyledus gydnabod eich Llythyr o'r 27 Tach. diweddaf, gan ddiolch yn ddiffuant i chwi am eich eydymdeimlad cyfeillgar â mi yn gystal mewn adfyd a hawddfyd. "Nid oes i'w ddisgwyl yn y byd hwn ond cyfnewidiau,' felly y cwynai Job,—'cyfnewidiau a rhyfel sydd i'm herbyn,' medd efe; a mawr fyddai gallu ymddwyn yng ngwyneb y cwbl, fel y darfu iddo ef, i ryw fesur.

Mae yn amlwg eich bod yn myned rhagoch yn ardderchog fel Bardd a da genyf weled Beirdd o'r iawn ryw yn amlhau, y rhai y byddo crefydd a'i rhwymedigaethau yn gysegredig yn eu golwg, a'r rhai na byddo yn hoff ganddynt ymarfer ag enllib a‘gogan air ;' byddaf yn gweled eich Gwaith a'ch arfer chwi yn dwyn arnynt nodau hawddgar Bardd Cristionogol a boneddigaidd. Dymunaf i chwi bob llwydd ac enwogrwydd.

"Yr eiddoch yn gywir,
"E. THOMAS."

Soniwyd cryn lawer am wneuthur tysteb genedlaethol i Eben Fardd yn ei hen ddyddiau, ar gyfrif y gwasanaeth mawr a wnaethai i lenyddiaeth ei wlad, ac y mae yn warth i ni fel cenedl fod y symudiad wedi darfod mewn "son" yn unig, yn lle cael ei gario allan gyda brwdfrydedd ac egni o'r mwyaf. Buasai cyflwyno tysteb iddo yn ei fywyd yn llawer gwell, yn ddiau, na chasglu arian at gael cof-golofn iddo ar ol ei farw er mor deilwng ydyw amcan felly. Gallasai bardd Clynnog wneud yn burion heb gof-golofn, gan