Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

estyna bob cynorthwy iddo gyda'r sirioldeb mwyaf. Rhaid i ni addef, gyda galar, nad yw y duedd ddym- unol hon yn nodweddu pawb o'n llenorion; ond yr oedd i'w chael mewn cyflawnder yn mhrif-fardd Clynnog, fel y gŵyr llawer bardd a llenor yn eithaf da. Mae yn wir y byddai yn gofalu yn ei feirniadaethau am nodi allan ddiffygion cyfansoddiad, yn gystal a'i ragoriaethau; ond byddai yn gwneud hyny bob amser mewn dull boneddigaidd ac addfwyn, gan ddangos mai ei amcan fyddai lleshau y person, ac nid ei ddigaloni. Er fod llawer blwyddyn wedi dianc i dragwyddoldeb, er pan dderbyniasom lythyr oddiwrtho am y tro cyntaf erioed, nid ydym eto wedi anghofio y fath gysur a brofasom wrth ei ddarllen. Yn gyson â'i hynawsedd arferol, dywedai ei fod yn llawenychu yn ein llwyddiant llenyddol, ac anogai ni yn y modd tirionaf i fyned rhagom, gan dystio y disgwyliai yn hyderus ein gweled ryw ddydd yn "un o brif golofnau ein hiaith a'n llenyddiaeth." Yr oedd llythyr o'r fath, oddiwrth Eben Fardd, fel llais o fyd arall, i'n calonogi ar ein gyrfa lenyddol.

Ond fe fu y tirionaf Eben farw! Ni ddengys angau ffafr i rinwedd nac i athrylith, er fod "brenhin y dychryniadau " yn troi yn borthor gogoniant i blentyn Duw; a hyfryd i'n prif-fardd, ar ol cael ei guro yn nhrigfa dreigiau a'i doi megys â chysgod angau, a hyny cyn iddo wynebu y glyn tywyll ei hunan-hyfryd i'w enaid addfwyn, meddwn, oedd cyrhaedd porth- laddoedd prydferth" y Jerusalem nefol, lle mae cys- tudd a galar yn ffoi ymaith, a'r trigolion gwynfydedig yn goddiweddyd llawenydd a hyfrydwch diderfyn bob amser. Derbyniasom y llythyr canlynol oddiwrtho, pan oedd yn nghanol ei dywydd garw yn y byd hwn, a bwriadem ei ddodi yn ei le priodol yn y rhan gyntaf o'r traethawd; ond gan fod ynddo rai cyfeiriadau