Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eithaf cyfeiliornus. Ond gallwn ddweyd am Eben, yr arferai ddyfarnu yn onest a chyfiawn, a beirniadu yn dra chywir yr un pryd. Nid yn unig gallai ddweyd pwy fyddai y goreu, ond gallai ddweyd paham y byddai yn oreu, a pham y byddai yr ymgeiswyr eraill yn colli y dydd. Er nad oedd ganddo ond meddwl bach iawn am ei alluoedd ei hun, eto daliai at ei farn yn ddiysgog, pan gredai fod achos cyfiawnder yn gofyn am hyny. Felly y gwnaeth yn Eisteddfod fythgofiadwy Aberffraw. Dywedir am Longinus, fod ei feirniadaeth ef ei hun yn engraifft odidog o'r arucheledd a glodforai yn eraill; a gellir dweyd yr un peth yn ddiau am Eben. Pan yn darllen ei feirniadaeth orchestol ar destyn Cadair Aberffraw, nis gwyddom pa un i edmygu fwyaf, ai cywirdeb ei farn, neu y dull athrylithgar y mynega ei farn. Er fod y feirniadaeth hon wedi ei hysgrifenu yn yr iaith Seisnig, ac er fod ei hawdwr yn ddyledus i'w ymdrechion personol ei hun, braidd yn gwbl, am ei wybodaeth o'r iaith hono, eto ni phetruswn ddweyd mai anaml y ceir Cymro yn gallu ysgrifenu cystal Saesoneg ag a geir yn yr ysgrif alluog hon. Yr oedd ein bardd wedi llwyddo i enill y fath sefyllfa uchel, a'r fath ddylanwad mawr fel beirniad, nes yr oedd ei air yn ddeddf yn mhlith ein beirdd a'n llenorion. Nid ydym am ddweyd ei fod yn gallu boddhau pawb bob amser; canys y mae hyny yn gamp rhy uchel i undyn byth allu ei chyflawni yn y fuchedd hon. Ond os byddai Eben, fel pob beirniad Cymreig arall, yn cael ei senu yn annghyfiawn ambell dro gan ddosbarth trystiog y "cam," byddai yn llwyddo bob amser i enill cymeradwyaeth gyffredinol ei gydgenedl fel beirniad galluog a diduedd.

Un o nodweddion y dyn gwir athrylithgar yw, ei fod yn awyddus i gefnogi athrylith yn eraill. Cyn gynted ag y gwel fachgen ieuanc yn ceisio rhagori,