154 OOFTANT
yn barnu yr hyn a gynyrchwyd. Y mae llygad chwaeth, fel y sylwa Hazlitt, yn adlewyrchu argraff- iadau athrylith, yr un fath ag y mae drych cywir yn adlewyrchu gwrthddrychau natur, yn eu boll burdeb a'u gogoniant ; neu fel porth dur yn gwynebu yr haul, yr hwn sydd nid yn unig yn derbyn ei ddelw a'i wres, ond hefyd yn eu dychwelyd. Gall dyn feddu chwaeth uchel, heb fod ganddo fawr ddira o athrylith ; ond nis gellir cael athrylith ar wahan oddiwrth chwaeth. Y mae rheol Pope, gan hyny, yn gywir, fel rheol gyffredinol, pan y dywed yn ei Essay on Criticism, mai y personau hyny sydd yn alluog i ragori fel cyf- ansoddwyr eu hunain, yw y dynion cymhwys i add- ysgu neu i farnu eraill : —
" Let such teach others who themselves excel, And censure freely wbo have written well."
Yr oedd Eben yn feirniad o'r iawn ryw. Yr oedd y ddau gymhwysder mawr yn cydgyfarfod ynddo, sef gallu i wahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, a digon o uniondeb meddwl i weithredu yn ol argyhoedd- iad ei farn. Dywedir am un Arglwydd Brif Farnwr yn Lloegr, na byddai byth yn gwneuthur camgymer- iad mewn barn, ond bob tro y cynygiai roddi rheswm dros ei farn, byddai yn sicr o fod yn anghywir. Yr ydym yn credu y gellir dweyd yr un peth am rai o brif feirniaid llenyddol Cymru. Bydd eu dyfarniad yn gywir braidd bob amser, a bydd eu beirniadaeth braidd bob amser yn anghywir ; a diamheu fod hyn wedi achlysuro llawer brwydr lenyddol mewn cys- ylltiad a'n Heisteddfodau. Os gwel yr ymgeisydd aflwyddianus fod y sylwadau a wneir ar ei waith yn anghywir, creda yn y fan fod camwri enbyd wedi cael ei gyflawni ; heb ystyried am foment fod yn bosibl i ddyfarniad fod yn eithaf teg, er i'r feirniad- aeth, fydd yn cymeradwyo y dyfarniad hyny, fod yn