Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDÜ. 153

ddiweddar mai nid y dynion mwyaf eu hathrylith, yn gyffredin, y w y cyfieithwyr goreu. Tywysog y cyf- ieithwyr yn mhlith y beirdd Seisnig yw Pope, ond nid yw, mewn un modd, yn dywysog y beirdd mewn crebwyll a darfelydd. Alun, fe allai, yw y goreu fel cyfieithydd yn mhlith beirdd Cýmru, ond y mae genym feirdd sydd yn sefyll mewn safle uwch. Nid oes un awdwr yn ysgrifenu yr iaith Gymraeg yn fwy grym- us, ac yn fwy cywir o ran priod-ddull, nag awdwr athrylithgar y " Bardd öwsg," ac anhawdd meddwl am undyn yn meddu dychymyg fwy gwreiddiol ac hedegog ; ond anystwyth ddigon y w ei gyfleithiad o 11 Reol Buchedd Sanctaidd."

Yn marwolaeth Eben, collodd ein gwlad un o'r beirniaid llenyddol goreu. Os oedd ei awen yn gwan- hau yn ei hen ddyddiau, yr oedd ei farn yn dal yn gref a chywir, ac yn addfedu o hyd. Drwg genym orfod dweyd fod sefyllfa beirniadaetli yn dra isel yn ein plith fel cenedl. Rhaid i ddyn sefydlu ei gymeriad, fel cyfreithiwr galluog, cyn y caiff ei ddychafu i orsedd barn yn y llys gwladol ; ond yn Ngiiyfarfodydd Llenyddol a man Eisteddfodau ein gwlad, y dyddiau hyn, caiff unrhyw ddyn fod yn feirniad, ond iddo feddu digon o haerllugrwydd a digy wilydd-dra ; a mynych y canfyddir dynion yn traddodi barn ddoc- toraidd ar gynyrchion eu cydwladwyr, pan na allant hwy eu hunain ysgrifenudim byd gwerth ei gyhoeddi. Y mae geiriau gwawdlym Byron yn para yn gywir eto, mewn lluaws o engreifftiau : —

" A man must serve his time to every trade Save censure, critics all are ready made."

Nid ydym am haeru y rhaid i ddyn fod yn alluog i

gyfansoddi yr hyn a farna. Prif allu y beirniad yw

chwaeth; ond nid yr un peth yw chwaeth ac athryl-

ith. Y mae athrylith yn cynyrchu, ac y mae chwaeth

s