y gadair ydoedd "Y Croeshoeliad," a'r testyn hwn a achlysurodd gyfansoddiad yr Awdl dan sylw; ond gan na chymerodd yr Eisteddfod byth le, cyhoeddwyd yr Awdl yn y "Traethodydd," dan y penawd "Calfaria." Mwy annheilwng fyth o awen dywysogaidd bardd Clynnog yw ei Bryddest ar "Afaon, Bardd Anian," er fod ganddi ei cheinion. Ymddanghosodd y gân hon hefyd yn y "Traethodydd." Awdl fach dlos, pa fodd bynag, yw yr Awdl ar "Adgyweiriad Eglwys Clynnog." Y mae rhyw swyn henafol a chysegredig yn rhedeg drwyddi, a chynwysa rai cyffyrddiadau digon tyner i hollti y galon galetaf. Gyda golwg ar ei ddarnau achlysurol eraill, rhaid addef fod llawer o honynt yn lled ddiyni, tra y mae rhai—megys "Y nos hon y gofynant dy enaid," a " Phaham y dirmyga yr annuwiol Dduw?"—yn dra theilwng o'r prif-fardd. Er na byddai yn rhyw ffodus iawn, yn gyffredin, pan yn canu un Englyn yn unig ar destyn, eto fe'i cawn, ar rai prydiau, yn dra llwyddianus. Beddargraff nodedig o dlws yw yr Englyn canlynol, a gyfansoddwyd i'w ddodi ar fedd y diweddar David Roberts Pughe, Ysw., o Goch y Bug:—
"Aeth yn glaf—a thyna glo—ar y byd,
I'r bedd bu raid cilio;
Ein coffhad er hyn caiff o,
Gwr da oedd—gair da iddo."
Ni bydd Tennyson, meddir, byth yn ysgrifenu rhyddiaeth; ond gofala am ymddangos o flaen y cyhoedd bob amser yn ei wisg farddol. Ond ysgrifenodd Eben lawer o ryddiaeth o bryd i bryd; ac yr oedd yn ysgrifenwr Cymraeg tra medrus ac urddasol, er y cwyna rhai nad yw yr iaith mor rwydd a naturiol ag ydyw yn ei farddoniaeth. Nis gallwn ei ganmol fel cyfieithydd. Lled anystwyth, ar y cyfan, yw "Addysg Chambers i'r Bobl;" ac yr ydym wedi sylwi yn