Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ie, mae'n wir ac mae'n arw—meddwl,
Mae addef yn chwerw;
Mae'r awen oedd mor hoew
Mwy yn y llawr yma'n llwm!

Bellenig unig anedd—os ti gest
Y gwir fardd o Wynedd,
Sai'i eiriauawl lwys rinwedd,
Fe'th heria fyth, oeraf fedd.

Ow! y lle tywyll tawel,—ti gefaist
Gyfoeth gwerth ei arddel;
Rhyw drysor fydd ddydd a ddel—gan Dduw lor
Yn hyfawl euro'r nefol oriel.
 Rhisiart Ddu o Fon. Chicago, Ill.

Eto.

Risiart Ddu oedd gu, oedd gall,—oedd ddoniol,
Oedd ddinam ei ddeall;
Ac wrth fydru bu'n ddiball
Yn euro cynyg arall.
 IONORON GLAN DWYRYD.}}