Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Some writers have complained that the National Eisteddfod never offered a prize for an elegy for Risiart Ddu, but the Gordofigion, in their Eisteddfod, Christmas, 1870, offered a prize for the best epitaph for him, and this is the successful Englyn:—

Mawr gŵyn fu rhoi mor gynar—weinidog
O nodwedd mor lachar
At feirwon, mewn estron âr—
Y Bardd Du i bridd daear!
 Hywel Tudur.


The following was the best Englyn at the Niles, Ohio, Eisteddfod, January 1, 1872—

O! 'r waedd oedd ei ddaearu—un enwog
Yn noniau hen Gymru;
Awr ei ddirfawr waith ddarfu—
Ber oedd y daith i'r Bardd Du.
—Hyde Park. Gwilym Curwen.


Eto

Yma yr huna mewn hedd—un o ddawn
Risiart Ddu o Wynedd;
Gwr enwog—ei wir rinwedd
O,wydd byd ni chuddia bedd.
 Plymouth. Nathan.


DEIGRYN

Ar fedd Risiart Ddu o Wynedd, yn mynwent Soar,
Rosendale, Wis.

Fan tawel o fewn tywod—ai'n llenor
Yn llonydd sydd ynod?
Ai'n bardd o'th fewn sydd yn bod—ai Risiart Ddu,
Gu was i Iesu gwiw sy isod?