Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyffredin yn gwario mwy nag oedd eu hamgylchiadau yn ei ganiatai iddynt arni, heb iddynt wneyd cam â phobl eraill. Yr oedd yn teimlo yn dra gelynol i'r arferiad o fyned o'r naill dŷ i'r llall i dê, neu i wledda, fel y gelwir ef fynychaf. Yr oedd gŵr a gwraig yn byw heb fod yn mhell oddiwrtho, ac yr oedd y gwendid hwn yn y wraig; byddai yn galw yn nghyd ei chyfeillesau a'i chymydogesau yn bur aml, i gydlawenhau â hi. Ond yr oedd y gŵr yn elyn calon i hyny; yn benaf, am y gwastraff oedd yn nglyn âg ef. Un diwrnod aeth y gŵr i'r tŷ, pan oedd y chwiorydd ar ganol eu llawenydd o amgylch y ford; ac yn yr olwg ar y gwastraff, collodd ei dymher; ymaflodd yn nghynwysiad y ford, a thaflodd hwy i ryw gornel yn y ty, nes oedd y llestri yn chwilfriw mân, a chymerodd y teapot a chadwodd ef yn nhaflod y beudy. Pan y gwelodd Mr. Humphreys, dywedodd yr holl hanes iddo. Gwyddai yntau fod hyn yn achos gryn annghydfod yn y teulu, a dywedodd, "Wel, y mae yn dda genyf dy fod o'r diwedd wedi dinystrio yr Amaleciaid, a chymeryd Amalec ei hun yn garcharor."