Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VII.

MR. HUMPHREYS A'I GYNGHORION.

Gŵr yn hebgor cynghor call
I rengoedd o rai angall.—GWERYDDON.

Y MAE un awdwr yn galw y "Diarhebion Cymreig," yn "weddillion doethineb yr hen Gymry." Yn y bennod hon yr ydym ninau yn bwriadu rhoddi gweddillion doethineb yr hybarch Richard Humphreys, fel y deuant i'r golwg yn y cynghorion a roddwyd ganddo ar wahanol achlysuron. Nid oes dim yn ddangosiad eglurach o'r adnabyddiaeth ddofn oedd ganddo o'r ddynoliaeth, ac o'r sylw manwl a dalai efe i ysgogiadau cymdeithas, na chyfaddasder ei gynghorion ar gyfer yr amgylchiadau y rhoddwyd hwynt ganddo. Y mae craffder, doethineb, a synwyr, wedi eu cerfio yn annileadwy ar yr oll o honynt. Dywed Solomon, "Lle ni byddo cynghor y bobl a syrthiant," ac mai "yr hwn a gymero gynghor sydd gall." Trwy gymeryd cyngor gall yr ieuangc ddysgu oddiwrth brofiad yr hen, a thrwy hyny ragflaenu llawer o gamgymeriadau. Ni a ddechreuwn trwy osod ger bron y darllenydd y rhai hyny sydd yn dwyn perthynas â phriodas. Nid oes yr un adeg ar oes dyn y mae yn sefyll mewn mwy o angen cynghor na'r cyfnod hwn ar ei fywyd. Gyda golwg ar yr amser i briodi dywedai fel hyn: Y mae yn amlwg fod eisieu ystyried, nid yn unig pwy, ond pa bryd i briodi. Dylai dyn ieuangc fod am rai blynyddoedd yn gwneyd prawf ar y byd, ac o hono ei hunan, cyn priodi, fel y gallo wybod a fedr efe ei lywodraethu ei hun cyn myn'd i lywodraethu teulu; a gweled pa faint sydd ganddo yn ngweddill o'i gadw ei hun cyn addaw cadw neb arall. Nid ydyw priodi, er ei fod yn osodiad Duw, ond direidi, heb fod rhyw olwg resymol am fywioliaeth, heblaw dyweyd fod y plwyf yn ddigon cryf, a bod hwnw i bawb. Cynildeb yn moreu oes am ddeng mlynedd yn y mab ieuangc, a phum' mlynedd fe allai yn y ferch ieuangc, a fyddai bron yn ddigon i'w