Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diogelu rhag eisieu wedi iddynt fyned i'r ystâd briodasol. Ond yn lle hyny nid oes ond ychydig o'n pobl ieuaingc yn gwybod gwerth arian hyd oni phriodant, ac erbyn hyn deallant y dylesid gwybod yn gynt. Cant eu hunain mewn llyn dwfn cyn dysgu nofio, pan y gallasent ymarfer mewn dwfr basach, lle nad oedd perygl iddynt."

Ond pan y gwelai ddyn yn myned i oedran mawr cyn priodi, dywedai wrth hwnw "y mae yn rhaid i ti briodi yn bur fuan bellach, neu dalu yn ddrud i rywun am dy gymeryd."

Rhoddodd y cynghor canlynol i ferch ieuangc, yr hon sydd heddyw yn fam yn Israel, ac yn ei gofio yn dda. Yr oedd ar daith yn Lleyn, a John Williams, Llecheiddior, gydag ef; llettyent un noswaith mewn tŷ lle yr oedd nifer o blant wedi eu magu; ac ebe John Williams, "Mr. Humphreys rhoddwch gynghor i Mary yma i chwilio am ŵr, fel y rhoddasoch i Miss.——"

"Ni roddais i erioed gynghor i un ferch ieuangc i chwilio am ŵr John, ond cynghor i ddewis gŵr pan y ca'i gynyg arno a roddais i." "Wel gadewch i ni ei gael," meddai y teulu. Ar hyn trodd yntau at Mary, a dywedai yn ei ddull siriol a dengar,—

"Mary bach, peidiwch cymeryd dyn diog: mae o yn ddrud iawn i'w gadw, ac ni ddwg nemawr i mewn. Gochelwch ddiottwr, canys y mae yn berygl iddo fyned yn feddwyn. Peidiwch cymeryd dyn digrefydd, rhag i'r 'Arglwydd ddigio wrthych, a'i adael felly; a pheidiwch er dim cymeryd ffwl, canys y mae yn anmhosibl gwneyd hwnw byth yn gall."

Adroddodd sylw hen gymydog iddo wrth deulu oedd yn igallu prisio eiddo yn hytrach na challineb a rhinwedd, ac yn dra awyddus i'w merch briodi un nad oedd mor gymeradwy ganddi hi, ac yn gofyn cynghor i'r hen wladwr, yr hwn a ddywedai—"Nid oes genyf fi ddim i'w ddywedyd rhyngoch ond pe deuai dyn gwirion i'ch tŷ chwi, efallai nad â allan mor fuan ac yr ewyllysiech iddo fyned." Dichon y sylw hwn fod er addysg i rieni yn gystal a phlant. Dywedai wrth ddyn ieuangc o joiner oedd yn gweithio iddo" Pan y byddi yn meddwl priodi, machgen i, gofala am gael dynes fedr wneyd gwaith; gwell i ti gael gwraig a chan' punt yn môn ei braich, nag un a chan' punt yn ei phocked.

Wrth briodi pâr ieuangc byddai yn arfer dyweyd, "Ym-