Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drechwch beidio gwario ond un-geiniog-ar-ddeg o bob swllt a enillwch."

Pan yn cyfarfod â merch ieuangc, yr hon oedd yn myned i oedran glew, dywedai, Y mae yn rhaid i ti beidio a chodi marciau G———n, neu ni phriodi di byth."

Unwaith pan ar daith yn Sir Gaernarfon, daeth i'w ran fyned i letya i dŷ lle y canfyddai wraig mewn oed, a gwraig ieuangc yn eu galar—wisgoedd. Yr oedd y wraig ieuangc yn brysur gyda'i goruchwylion ar hyd y tŷ, a'r hen wraig yn eistedd i ymddyddan a'r pregethwr. O'r diwedd deallodd Mr. Humphreys mai merch yn nghyfraith i'r hên wraig oedd yr ieuangc, a'i bod wedi colli ei phriod er's tro bellach; a dywedai wrth yr hen wraig: "Gwelais ferched yn nghyfraith yn byw gyda'u mamau yn ein gwlad ninau; ond costiai yn lled ddrud iddynt yn gyffredin. Gofelwch am fod yn dyner wrthi." Yn mhen amser y mae yn myn'd i'r un daith drachefn, a digwyddodd iddo fyn'd i'r un fan i letya. Y pryd hyn yr oedd y wraig ieuangc wrth y drws yn ei dderbyn yn siriol dros ben, a pharhaodd yn hynod o groesawus tra y bu yno. Pan drodd yr hen wraig ei chefn, torodd y weddw ieuangc at Mr. Humphreys a dywedai: Y mae yn dra thebyg eich bod yn methu esponio y gwahaniaeth sydd yn fy ymddygiad y tro hwn." Yr wyf yn ei weled," meddai yntau, "ond nis gallaf ddyfalu pa beth yw yr achos o hono." "Pan oeddych yma o'r blaen," meddai hithau, "diferasoch air a greodd fyd newydd arnaf fi, ac nis gallaf ddirnad maint fy nyled i chwi. Byth er hyny y mae fy mam yn nghyfraith mor garedig tuag ataf ag y mae modd iddi fod. Nid oeddwn o'r blaen gystal fy mharch a morwyn."

Wrth roddi cynghor i swyddogion eglwys lle y cynhelid Cyfarfod Misol unwaith, dywedai, "Y mae llawer o son yn Eglwys Loegr am dignity of the Church, a'r peth y maent hwy yn ei ystyried yn dignity ydyw, cael ei ordeinio gan esgob, a bod ei gweinidogion yn wŷr bonheddig, &c., ond y mae gwir dignity yn gynwysedig mewn bod swyddogion yr eglwys yn dduwiolion, a'r aelodau ieuaingc yn sychedig am fod yn fawr mewn gras a sancteiddrwydd."

Dro arall wrth gynghori swyddogion eglwysig, dywedai, "Gofelwch am fod yn flaenoriaid. Y mae rhai yn blaenori heb fod yn flaenoriaid, a rhai blaenoriaid heb flaenori, ac o'm rhan i gwell genyf y cyntaf."