Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfarwyddai flaenor ieuangc fel hyn, "Pan y byddi yn rhoddi achos o ddysgyblaeth ger bron yr eglwys, ymdrecha wneyd hyn heb amlygu dy farn dy hun, onide fe fydd i lawer dy wrthwynebu."

Dywedai wrth gyfaill ieuangc oedd yn ei wasanaeth, yr hwn oedd yn dechreu pregethu, "Pan y byddi yn myned. i ymweled â chyfeillion mewn profedigaethau, paid byth a cheisio eu cynal trwy fychanu eu trallodion; y mae pawb yn meddwl rhywbeth o'u profedigaethau, a dangos dithau dy fod yn cydsynio â hwy am faint eu trallodau; ac ar ol i ti enill lle trwy dy gyd-ymdeimlad â hwy, byddant yn barod i gymeryd cynghor genyt."

Wrth gynghori pregethwr ieuangc a amheuid o fod yn chwyddedig ei yspryd, dywedai, "Nac annghofiwch un amser wrth bregethu i bechaduriaid mai pechadur ydych eich hunan. Dywedir am ambell i ferch ieuangc sydd yn teimlo yn agos fel ag y dylai, wedi rhyw dro anhapus yn ei bywyd, na chododd hi byth mo'i phen ar ol hyny. Y mae hen dro anhapus wedi cymeryd lle yn ein hanes ninau, a dylem ostwng ein penau mewn cywilydd wrth feddwl am dano. Cofiwch chwithau hyny."

Byddai yn dyweyd wrth y rhai fyddai yn llwyddo yn y byd, eu bod mewn perygl o fyned yn gybyddion os na byddai iddynt ddysgu cyfranu; dywedai, "Mae llwyddiant heb haelioni yn gwneyd un yn gybydd, a llwyddiant heb gynildeb yn gwneyd un yn wastraffwr."

Dywedai wrth gymydog oedd trwy ei lafur, ei ddiwydrwydd, a bendith yr Arglwydd, wedi bod yn llwyddianus yn y byd, "Da iawn, hwn a hwn, yr wyt ti wedi dechreu adeiladu dy glochdy o'r gwaelod, a'i godi yn raddol o dan dy draed i'r top, ac y mae llawer o debyg y galli di sefyll ar ei ben. Y mae rhai yn cael eu cyfodi i ben clochdai wedi i eraill eu hadeiladu, ac yn gyffredin y maent yn rhy ben-ysgafn i allu sefyll arno. Y mae rhai sydd wedi dyfod i fyny trwy eu llafur eu hunain yn gallu trin eu heiddo yn llawer gwell na'r rhai sydd wedi ei gael ar ol i eraill lafurio am dano." A byddai wrth anog i ddiwydrwydd yn dyweyd, Mai nid mewn bod yn gyfoethog y mae yr hapusrwydd, ond mewn myn'd yn gyfoethog; ac nid mewn bod yn dlawd y mae trueni, ond mewn myn'd yn dlawd." Cynghorai yr eglwys yn ei gartref fel hyn, "Peidiwch a dyweyd dim am eich gilydd, os na bydd genych ryw dda