i'w ddywedyd. Peidiwch a drwgdrybio eich gilydd, a pheidiwch a bod yn rhy barod i gredu pob chwedl a glywch am eich gilydd; nithiwch hwy yn bur dda cyn rhoddi llety iddynt. Yr wyf yn cofio yn dda nad oedd ond ychydig o'r chwedlau a fyddai yn cael eu dyweyd am danaf fi, pan oeddwn yn ieuangc, yn wirionedd; ac yr wyf wedi gwneyd fy meddwl i fyny er's talm i beidio a chredu ond o gylch un ran o dair o chwedleuon cymydogaeth; a chynghorwn chwithau i rodio wrth yr un reol. Byddwch yn yspryd yr efengyl bob amser; yn debyg i'r aderyn yr hwn sydd bob amser yn ei adenydd, er nad yw bob amser ar ei adenydd, ond byddai yn barod pa bryd bynag y gwela berygl. Byddai bod felly yn fantais i chwithau i ymddyrchafu at Dduw." Pan y byddai rhai o'r frawdoliaeth yn cwyno eu bod yn oerion gyda chrefydd, dywedai, "Mai gwres gwaith oedd yr hapusaf o bob gwres."
Cwynai gwraig gyfrifol wrtho unwaith ei bod mewn profedigaeth oddiwrth ryw bersonau nad oedd fawr o foneddigeiddrwydd yn perthyn iddynt " Na feindiwch," ebai yntau," mae yn haws i chwi ddyoddef nag iddynt hwy dori ar eu harfer."
Pan yn tori ei farf mewn tŷ capel, cynygiwyd iddo lian glân i dderbyn y lather oddiar ei wyneb; ond gwrthododd ef, gan ddewis papyr yn ei le, a dywedai, "A wyddost di hyn, William, fod yn well peidio a difwyno peth, na'i olchi ar ol ei ddifwyno, fel ag y mae peidio pechu yn well na chael maddeuant ar ol pechu."
Anogai bawb i ymdrechu bod yn y canol gyda phob peth, a dywedai, "Byddaf yn gweled mantais o fod yn y canol, pe na byddwn ond yn myned trwy lidiart; y mae y cyntaf yn ei hagor, a'r olaf yn ei chau, a minau yn cael myned trwyddi heb gyffwrdd fy llaw arni."
Pan y daeth gŵr agos at grefydd o hyd iddo ar y ffordd unwaith, gofynai, " W. T. sut yr wyt ti? Ai ar y terfyn yr wyt ti o hyd ?" "Ie, yn wir, eto," oedd yr ateb, "Cofia mai lle ofnadwy sydd o dan y bargod; dyna y man lle y mae y dafnau brasaf yn disgyn," meddai yntau. "Ar y rhiniog yr oeddyt pan yn fachgen, gwylia di settlo yn y fan yna." W rth edrych ar un o'i gyfeillion a golwg digalon arno, gofynai, "A oes rhywbeth yn dy boeni di, machgen i ?"
"Oes y mae," ebai y cyfaill." "Na hitia ddim, ni weli di byth ffwl yn poeni."