Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Byddai yn hawdd ganddo roddi gair o gynghor fel y peth diweddaf wrth adael tŷ neu gyfaill. Clywsom un masnachwr yn dyweyd ei fod ef a Mr. Humphreys wedi ffurfio cyfeillach pan oeddynt yn bur ieuaingc, ac yn ei dŷ ef y byddai yn rhoddi i fyny pan y byddai yn pregethu yn eu tref. Byddai y cyfaill yn arfer a myn'd i'w hebrwng boreu Llun, hyd rhyw fan penodol. Cerddai yntau wrth ei ochr dan dywys y march a'i cariai, ac ymddyddan. Wedi cyrhaedd y fan i'r cyfaill droi yn ol, arferai ddyweyd bob amser wrth ffarwelio, "Good bye, my dear fellow, be sure of doing right." Clywsom y boneddwr hwnw, yr hwn erbyn hyn sydd yn hen afgwr parchus, yn dyweyd, nas gallodd erioed fyned heibio i'r llanerch hono ar y ffordd, lle yr Arferai droi yn ol heb gofio ei eiriau. Mae yr ymadroddion, "Be sure of doing right" iddo ef, fel pe byddent wedi eu cerfio a phin o haiarn.

Pan ar un o'i deithiau, aeth i letya at deulu parchus a charedig, ond heb fod yn proffesu crefydd. Yr oedd wedi bod yn hynod o'r difyrus i'r teulu, ac wrth fyned i ffordd dranoeth dywedai, gan edrych yn myw llygad y wraig, "Remember the great point, Mrs. Roberts bach." Tystiai y wraig fod ei eiriau diweddaf wedi bod fel cloch yn ei chlustiau am amser maith.

Yr oedd unwaith yn ymddyddan a gŵr ieuangc cyfrifol, ac o ddygiad da i fyny, ond yn lled ddifeddwl am grefydd, ac ar ddiwedd yr ymddyddan dywedai, "You are a great fool, but remember I mean a moral fool."

Pan yn cyd-fwyta â nifer o rai ieuaingc, byddai yn hawdd ganddo ofyn, "A wyddoch chwi pa bryd y bydd yn ddiogel i chwi roddi i fyny fwyta? Pan y byddwch wedi bwyta nes teimlo na waeth genych pa un ai bwyta ychwaneg ai peidio. Os byddwch wedi bwyta nes teimlo nas gallwch gymeryd ychwaneg, byddwch wedi bwyta gormod; ac os byddwch yn teimlo awydd i ychwaneg, byddwch wedi cymeryd rhy fychan." Cofied y glwth y rheol hon.

Wrth gynghori swyddogion eglwysig i deilyngu parch, ac nid ei ddisgwyl ar gyfrif eu swydd, dywedai fel hyn, "Dylai swyddogion eglwysig fod yn ofalus iawn i ymddwyn yn y fath fodd fel ag i deilyngu parch, ac nid ei ddisgwyl oherwydd swydd yn unig. Fe allai fod rhai pregethwyr a diaconiaid heb feddu dim llywodraeth ar eu heglwysi. Ond nid yw pethau yn eu lle felly. Ni bydd yr eglwys