Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hono byth yn gysurus iddi ei hun lle na bydd y swyddogion yn dal llywodraeth addas ar yr aelodau. Ond y mae yn bosibl cam arfer hyn, sef fod swyddogion yn hòni llywodraeth heb ymdrechu i'w haeddu. Byddant felly yn dra thueddol i fyned i ymryson â'r aelodau, a'r aelodau drachefn à hwythau. Eu dadl hwy yna fydd, fod yr aelodau yn gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth, pryd na bydd ond enw o swydd yn galw am barch ac ufudd-dod. Nid peth hoff yw clywed rhai mewn swyddau yn son llawer am eu hawdurdod a'u hawl. Er fod awdurdod ganddynt, nid yw yn weddus ei hòni bob amser; ceir ef yn naturiol os bydd pethau yn eu lle. Ni effeithiai yn dda i'r gŵr ddyweyd yn wastad wrth y wraig, "Myfi sydd i fod yn ben; rhaid i ti blygu." Er mai y gŵr yw pen y wraig, nid trwy hòni hyny y derbynia efe y parch mwyaf, ond trwy lanw ei le fel y cyfryw. "Myfi ydyw'r pen," o'r goreu; ond pa fath ben ydwyt? Ai pen papyr sydd yna, ai pen asyn, ynte ai pen dyn? "Myfi ydyw'r pen." Ie, o'r goreu yn y pen y mae y llygaid, ac oddifewn i'r pen y mae yr ymenydd; dyna gartref y synwyr; os pen, dangos hyny trwy iawn arwain a threfnu. Mae yn bosibl mewn eglwys i swyddogion ddyrysu eu hamcanion wrth sefyll dros eu hawl; rhaid ymdrechu am y cymhwysderau, a dilyn yr ymarferiadau sydd yn cynyrchu parch oddiwrth eraill. Mae dynolryw yn gyffredin yn caru gwir ofal am danynt. Pan ymddangoso blaenoriaid yn gwir ofalu am yr aelodau mewn profedigaethau neu ar ymylon peryglon maent wrth hyny yn enill gradd dda yn eu meddyliau.