Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni a derfynwn y bennod hon trwy gofnodi y sylwadau a wnaeth mewn ffordd o gynghor i'r hen bobl yn y seiat fawr, dydd Llun y Sulgwyn, yn Liverpool, yn y flwyddyn 1856. Yn y cyfarfod hwn yr oedd y diweddar Mr. Morgan, yn rhoddi cynghor i'r bobl ieuainge; Mr. Lumley i'r canol oed; a Mr. Humphreys i'r hen bobl, yr hyn a wnaeth fel hyn: "Mae tori dyn ymaith yn nghanol ei ddyddiau yn cael ei olygu yn yr Ysgrythyrau yn beth annymunol, a'i fod drwy hyny megys yn ei ddifuddio o weddil ei flynyddoedd; ac fel bendith ar ddyn sonir am amryw o'r hen batriarchiaid eu bod wedi marw mewn oedran teg ac yn gyflawn o ddyddiau. Peth dymunol iawn ydyw gweled rhai yn myned yn hen, ond y mae y Brenin Mawr yn gosod treth drom ar bob un sydd yn cael myned felly. Rhaid dioddef llawer gwaew yn yr aelodau, a chael ei amddifadu o'i nerth, colli ei glyw, y golwg yn pallu, a'r gwŷr cryfion yn crymu: y rhai sydd yn malu yn methu am eu bod yn ychydig; colli naw rhan o ddeg o'i gyfeillion, &c. Mae cryn lawer o drethoedd o'r natur yma i'w talu gan henaint: ond y gamp ydyw bod yn ddiddig o dan y trethoedd hyn, a pheidio a bod yn bigog, grwgnachlyd a thuchanllyd. Dywediad rhyw ŵr oedd, fod yn rhaid i duchan gael y drydedd: y mae yn llawer gwaeth na'r degwm. Yr hyn a geidw ddyn mewn henaint yn heddychol a chysurus yw cael ei lenwi â thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall. Yn Nghrist y mae tangnefedd heddychol, dyddanwch a chysur cariad, digon i wneyd rhai yn dirfion ac iraidd mewn henaint. Nid mewn maintioli y mae cynydd henaint yn gynwysedig; eithr cynydd mewn defnyddioldeb, cynydd mewn aeddfedrwydd i'r nefoedd, cynydd mewn sylweddoldeb, fel y dywysen ar fin y cynhauaf. A glywsoch chwi y ddau ffermwr yn ymddyddan a'u gilydd y dydd o'r blaen, yn nghylch y cae gwenith. Yr ydwyf wedi sylwi, meddai un, nad yw eich cae gwenith yn tyfu dim. Os nad yw yn tyfu, ebe y llall, y mae yn aeddfedu. Felly adeg i aeddfedu ydyw hen ddyddlau. Y mae hen ddysgyblion yr Arglwydd Iesu i fod fel balast yn y llong, i'w chadw yn steady yn nghanol tymhestloedd a ddichon godi a churo arni."