Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

MR. HUMPHREYS A DYSGYBLAETH EGLWYSIG

CYHUDDID ef weithiau o fod yn rhy dyner wrth ddysgyblu. Gwyddai yntau fod hyny yn cael ei roddi yn ei erbyn, a byddai yn arfer dyweyd, "Y maent yn dyweyd fy mod yn rhy find, ond ni chlywais i neb erioed yn cwyno fy mod yn rhy find wrthyn' nhw." Ar ryw ymddyddan rhyngddo ef a'i hen gyfaill, y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, dywedai, "Y mae ar y mwyaf o bupur a halen ynot ti, Griffith, fel sydd yn Ann acw." Atebwyd ef yn ol gan Griffith Hughes, "Y mae yn dda ei fod ynddi hi ac mewn eraill, canys yr ydych chwi fel flour—box yn peillio pawb." Er mai o ddigrifwch diniwaid a chyfeillgar y gwnaed y sylwadau hyn ganddynt, eto yr oedd y ddau yn dyweyd wrth eu gilydd yr hyn yr oedd llawer yn siarad am danynt. Y mae rhai nad ystyriant ddim yn ddysgyblaeth ond tori allan, ac ni bydd hyd yn nod tori allan yn werth dim heb iddo gael ei wneyd mewn dull haerllug a dideimlad—dull a fydd yn caledu y troseddwr, ac yn peri i gydymdeimlad llawer yn yr eglwys fyned o'i blaid i'r fath raddau fel y cuddir y trosedd gan dosturi at y troseddwr. Pa sawl gwaith y mae nwydau drwg wedi trawsfeddianu enw sêl grefyddol : a thaiogrwydd natur afrywiog, annghoethedig, wedi cael ei alw yn blaender crefyddol? Ond gan y dysgwylir i ddysgyblaeth eglwysig fod yn foddion o ras i'r troseddwr, yr ydym yn credu fod y dull tyner, a'r ysbryd addfwyn, yn mha un y byddai Mr. Humphreys yn gweinyddu y cerydd yn llawer tebycach o ateb y dyben.

Dywed un o'i hen ddysgyblion (Mr. Rees Roberts, Harlech) fel hyn am dano yn y cysylltiad hwn: "Yr oedd yn geryddwr ffyddlon a chywir, yn un yn dwyn argyhoeddiad i bob calon a chydwybod mai mewn ffyddlondeb i Grist a'i achos, a chariad diledrith at y troseddwr, y byddai yn gweinyddu y cerydd. Y mae ambell un yn ceryddu yn y fath fodd ac yspryd fel ag y mae yn ddigon o waith i ddyn allu credu na fydd yn mwynhau y gwaith, trwy ei fod wrth hyny yn