cael cyfle i ollwng allan gryn lawer o chwerwder ei dymer afrywiog, a surni ei yspryd cul ei hunan; yn bur debyg i gi coch, curliog, mawr, a welais y dydd o'r blaen wrth gadwen gref; wrth lwc, mewn yard goed yr oedd yn chwyrnu ac yn bygwth, fel pe buasai yn eiddigeddus i'r eithaf dros bob ysglodyn o eiddo ei feistr; pryd, mewn gwirionedd, nad oedd y creadur ond gollwng allan ffyrnigrwydd a mileindod ei natur giaidd ei hunan. Gwnaethai yr un peth yn gymwys pe buasai wedi ei ystancio ar y domen ludw fwyaf diwerth yn y byd. Ond ni thybiwyd gan neb erioed fod Mr. Humphreys yn ymhyfrydu mewn gweinyddu cerydd ar undyn. Gallai efe geryddu, ond nis gallodd erioed chwyrnu; gwnai ei gaswaith yn ffyd'ilon ac effeithiol, mae yn wir; ond teimlem i gyd mai oblegyd yr angenrhaid a osodwyd arno y cyflawnai y gorchwyl hwn. Os byddai rhaid i'r cerydd fod yn llym a miniog, argyhoeddid ni oll mai er mwyn y dyoddefydd y byddai efe yn hogi ei arfau, a sylweddolid yn bur gyffredin gan wrthddrych y cerydd eiriau Dewi Wyn,
'Gwybydd tan law tyner Dad
Nad yw cerydd ond cariad'.
Trwy ei fod yn ŵr o gynghor, galwyd ef gan swyddogion llawer eglwys i'w cynorthwyo pan y byddai rhyw annghydfod wedi tori allan, neu gwestiwn o ddysgyblaeth y byddai arnynt eisieu help i'w ddwyn i derfyniad. Teimlai Mr. Humphreys wrthwynebiad cryf i roddi cyhoeddusrwydd i bob achos o ddysgyblaeth, trwy ei ddwyn gerbron yr holl eglwys, os gellid mewn un modd ei derfynu mewn cylch llai, a diau fod pob swyddog o brofiad yn barod i gydnabod 'doethineb y cwrs hwn a gymerid ganddo. Y mae yn beth i'w ryfeddu, pan y meddylier am gynifer o gwestiynau bychain a dibwys a roddwyd ger bron eglwysi lluosog, fod can lleied o rwygiadau wedi bod ynddynt. Pan y byddai i frawd neu chwaer wneyd llongddrylliad ar ei ffydd, ei gwestiwn cyntaf ef fyddai, "Beth ydyw y peth goreu a ellir ei wneyd o'r drwg hwn?" Ni byddai byth yn ceisio chwyddo y bai; ond rhoddai bob mantais a allai, heb gefnogi y trosedd, o blaid y troseddwr. Dyma y rheswm fod y gair wedi myned ar led yn ei gylch, ei fod yn rhy dyner gyda "dysgyblaeth eglwysig." Pan y byddai Mr. Hum-