Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion i adael ar hyn o gerydd i'r bachgen y tro hwn;" a chytunodd pawb a'r cynghor, oddigerth yr hen ŵr; ond bu yntau yn ddigon doeth i dewi. Wrth fyned o'r Cyfarfod dywedai Mr. Humphreys wrth gyfaill oedd yn cydgerdded âg ef: "Yr oedd yr hen frawd wedi meddwl rhoi dau fis o garchar i'r bachgen, ond yr wyf fi yn credu fod yr hyn a wnaed yn debycach o ateb y dyben."

Yr oedd i fod yn Sm ryw nos Sadwrn yn cadw seiat, ac yr oedd y swyddogion wedi darparu gwaith iddo pan y y deuai, a phan yn cychwyn i'r capel dywedai un wrtho : Mae yma ddyn ieuangc yn cyfeillachu gydag un heb fod yn proffesu; ac yr oeddym wedi meddwl ei alw yn mlaen heno gael i chwi ymddyddan ag ef." "Nid wyf yn barnu yn briodol iawn," ebe yntau, "ymddyddan yn gyhoeddus ar bwnge fel yna, ond os ydych yn dewis, ymddyddanaf yn bersonol ag ef ar ol i'r cyfarfod derfynu;" ac felly y cytunwyd. Wedi ymddyddan ychydig a'r bachgen, deallodd Mr. Humphreys ar ei atebion penderfynol ei fod wedi gwneyd ei feddwl i fyny i briodi yr eneth, ac nad oedd un dyben ymresymu ag ef, a therfynodd yr ymddyddan trwy ddyweyd wrtho, "Wel edrych di rhag gwneyd dy botes yn rhy hallt, tydi raid ei fwyta." Ar ol hyn prïododd y bachgen, ac yn mhen yspaid o amser yr oedd Mr. Humphreys yn myned i'r un lle drachefn, ac yn mysg y rhai oedd yn myned i ysgwyd llaw â'r pregethwr, adnabu Mr. Humphreys y dyn ieuangc, yr hwn erbyn hyn oedd yn ŵr a thad, a gofynodd iddo," Wel, sut y mae y potes yn troi allan?" "Hallt iawn, Mr. Humphreys," oedd yr ateb.

Ni byddai yn caru gweled neb yn cyffroi wrth drin achos. brawd fyddai wedi colli ei le. Anfonwyd ef a'r diweddar Barch. Cadwaladr Owen i eglwys lle yr oedd achos o ddysgyblaeth, ac yr oedd yr achos wedi bod ger bron y frawdoliaeth lawer gwaith. Wedi gwrando yr achwynion, ac iddynt hwythau eu dau wneyd sylwadau, a dechreu gofyn barn yr eglwys, cododd un gŵr ar ei draed a dywedodd yn bur gynhyrfus:—"Nid oes eisieu colli ychwaneg o amser gyda'r dyn yna, yr ydym wedi arfer digon o amynedd gydag ef yn barod." "Wel, frawd bach," ebe Mr. Humphreys, "mi feddyliwn eich bod chwi wedi arfer cymaint ag sydd genych."

Edrychai Mr. Humphreys ar fai bob amser yn ei gysylltiad âg amgylchiadau a themtasiynau y troseddwr,