Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac y mae y neb a farno drosedd heb roddi ystyriaeth briodol i'r pethau hyn yn y perygl o wneyd camgymeriadau, a thrwy hyny guro â llawer ffonod yr un na ddylasai gael ond ychydig, a rhoddi ychydig ffonodiau i'r un a ddylasai gael llawer. Trwy y byddai efe yn mesur a phwyso amgylchiadau fel hyn, byddai gwrth-darawiad yn cymeryd lle weithiau rhyngddo âg ambell i eglwys y byddai wedi ei anfon i'w chynorthwyo. Digwyddodd fod achos aelod yn cael ei drin mewn eglwys unwaith, ac yr oedd yr holl frawdoliaeth yn teimlo mai allan y dylasai y cyhuddedig fyned: ond cynghorodd Mr. Humphreys hwy i'w adael i mewn. Ar ddiwedd y cyfarfod dywedodd un o'r blaenoriaid wrtho: "Rhaid i chwi ddyfod i fyw at y bobl hyn, gan eich bod yn mynu eu cadw i mewn ; yr ydym ni yn methu a chael dim trefn arnynt." "Mae yn ymddangos i mi," ebe yntau, "nad yw y dyn yna yn bur gall, ac yr oeddwn yn ofni os buasai i chwi dynu pob llyfethair oddiarno mai ar ei ben i ddinystr y buasai yn myned yn fuan."

Dro arall, gofynodd swyddog rhyw eglwys iddo beth a wnaent i hwn a hwn: "y mae wedi colli ei le eto," meddai. Yr oedd Mr. Humphreys yn adwaen y troseddwr yn dda, a dywedai: "Un rhyfedd ydyw, ac nis gwn beth gwell a ellir wneyd na chymysgu tipyn o gyfiawnder a thrugaredd iddo."

Cofus genym glywed swyddog eglwysig yn gofyn iddo beth oedd eu dyledswydd at aelod oedd yn eu heglwys wedi taro ei gymydog. "Wel," ebe yntau, mae llawer o ddynion câs iawn yn bod, a byddant yn cymeryd mantais ar grefyddwyr i'w poeni yn ddiachos, gan drustio i'w crefydd; ac mi fyddaf fi bron a meddwl mai purion peth ydyw fod ambell i grefyddwr na waeth ganddo daro na pheidio, a hyny er gosod ofn ar weilch felly."

Byddai yn cael ei demtio weithiau i fod yn llym, a byddai y pryd hwnw yn llefaru yn arw. Yr oedd hen ŵr yn y G——n yn dechreu canu, ac am fod y rhan hon o wasanaeth y cysegr yn cael cam oddiar law yr hen wr, gosodwyd dyn ieuangc yn ei le. Teimlodd yr hen ŵr yn fawr. a llwyddodd i godi terfysg yn yr eglwys; a galwyd ar Mr. Humphreys a brawd arall i lonyddu y cythrwfl. Wrth weled yr un oedd wedi dechreu y terfysg mor hunanol ac anmhlygiedig, dywedai Mr. Humphreys, "Nis gwn beth ydyw