Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyben y Brenin mawr yn gosod ambell un ar y ddaear, os nad i brofi amynedd pobl eraill;" ac yna trodd at yr hen frawd, a dywedai ei fod yn ofni y byddai ei ddiwedd yn waeth na'i ddechreuad.

Yr oedd yn y Dyffryn ryw henafgwr, yr hwn a fyddai a'i law yn drom ar y bobl ieuaingc. Byddai yn gweled rhyw ysmotiau duon arnynt bob amser, ac ar ol iddo fod yn eu fflangellu am rywbeth a ystyriai ef yn feius, dywedai Mr. Humphreys, " Y mae pawb yn gweled y gwrthddrychau yr edrychir arnynt trwy wydr yr un lliw a'r gwydr ei hunan: os du fydd y gwydr, du yr ymddengys pob peth drwyddo;" ac wedi gwneyd y sylw trodd at y brawd a dywedodd, "Fe fyddai yn burion peth i tithau newid dy spectol."

Dro arall, wrth glywed y plant yn cael eu ceryddu am fyned ag afalau surion i'r capel, cymerodd Mr. Humphreys yr ochr amddiffynol, a dywedai:—"Mae yr hen bobl yn methu a gwybod beth ydyw y bwyta sydd ar y plant yn y capel, a'r plant yn methu gwybod beth ydyw y cysgu sydd ar yr hen bobl; ac o'm rhan i byddai yn well genyf eich gweled yn bwyta i gyd na chysgu : byddai rhyw obaith i chwi glywed wrth fwyta, ond dim wrth gysgu.'

Byddai yn cael ei demtio weithiau i ddywedyd gair lled ysmala wrth drin achosion na byddai yn gweled pwys mawr ynddynt. Yr oedd annghydfod wedi tori allan rhwng brawd a chwaer perthynol i'r eglwys, a dywedai y brawd fod y wraig wedi ei daro. Gofynai Mr. Humphreys i'r wraig, a oedd hi wedi gwneyd hyny.

"Wel do," ebe y wraig, "mi a'i tarewais ef."

"Gyda pha beth?" gofynai Mr. Humphreys.

"Gyda'r golch-bren," ebe y wraig.

"Wel oni chefaist di beth pwrpasol iawn!" ychwanegai y gweinidog.

Collodd ei olwg ar y bai yn nghyfaddasrwydd yr offeryn a ddefnyddiodd y wraig i ddial ei cham. Ei esgusawd dros wneyd sylwadau o'r fath fyddai nas gallai yn ei fyw arbed pêl deg pan y deuai ato.

Dengys yr hanesyn hwn am dano pa mor aeddfed ydoedd i roddi barn ar bob cwestiwn a osodid o'i flaen. Dygwyddodd pan oedd yn myned gyda chyfaill i dê un prydnawn Sabbath i'r Mail Car eu pasio, yr hwn a redai rhwng Dolgellau a Chorwen, ac y mae yn ymddangos fod y gŵr oedd