Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a rhaw ar fy ysgwydd weithiau, ond ni chlywais neb erioed yn dyweyd fy mod i yn myn'd i chwilio am fŵn."

Y mae hanesyn arall am dano yn ei berthynas âg Owen Williams y gallwn ei osod yn ddiweddglo i'r bennod hon. Yn Nghymdeithasfa Caernarfon, yn y flwyddyn 1851, bu sylw ar achos adferiad yr hen frawd Owen Williams, Towyn, wedi rhyw gymaint o attaliad arno. Yr oedd Mr. Humphreys ei hunan yn lled drwm arno, ac fe ddywedodd bethau hallt iawn wrtho. Ond nid oedd yn foddlawn i neb arall fod yn rhyw lawer felly—tra yr oedd cryn nifer yn tueddu at fod, yn enwedig o'r blaenoriaid, o rai o'r siroedd. Yr oedd y diweddar Mr. Hugh Jones o Lanidloes, yn teimlo yn gryf iawn yn ei erbyn, ac yn siarad yn dra gwrthwynebol i'w adferiad. "Does dim rheswm," meddai, 'gadael i ddyn fel yna fyned ar draws y wlad; yn dangos lwmpiau o lô, a darnau o gerig mŵn yn ei bocedau; yn dangos y rhai hyny yn nhai y capelau, ac yn perswadio pobl dlodion i roi eu harian, ac i gymeryd shares mewn rhyw weithiau, a'r rhai hyny yn troi allan heb ddim ynddyn' nhw: a'r bobl druain yn colli eu harian. 'Does dim synwyr gadael y pulpud i ddyn fel yna."

"Yn wir," meddai Mr. Rees, "y mae pethau fel yna, os ydynt yn wir, yn bethau tra difrifol."

"A hyn a fu i rai o honoch chwi, Henry," meddai Mr. Humphreys, "y mae gormod o rywbeth fel yna yn sicr wedi bod: ond credu yr oedd Owen Williams fod rhyw doraeth o gyfoeth ar ei gyfer o yn yr hen ddaear yma yn rhywle, pe cawsai o afael arno; ac yn wir yr oedd yn ddigon rhaid i'r truan wrtho; oblegyd ni chafodd o ddim rhyw lawer erioed gan yr hen Fethodistiaid yma.'

"Nid oedd y dyn," meddai Mr. Hugh Jones drachefn, "yn gofalu dim am ei gyhoeddiadau. Yr oedd cyhoeddiad ganddo gyda ni yn Llanidloes acw, ac yr oedd son mawr am dano, a dysgwyliad mawr wrtho. Yr oedd y dyn wedi bod mewn print: ac yr oedd y bobl—fel y mae nhw yn meddwl llawer iawn o ddyn felly. Fe ddaeth y boreu Sabbath, a llon'd y capel o bobl; ond nid dim hanes Owen Williams o Dowyn. A dyna lle lle y buom ni trwy y dydd heb neb. Ond yn fuan