Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ol hyn, clywem bod Owen Williams, y diwrnod hwnw, yn Aberteifi, neu Gaerfyrddin. Beth dâl dyn fel yna na ellwch chwi ro'i dim ymddiried y daw o i'w gyhoeddiad ?"

"Ydyw yn siwr," meddai Mr. Humphreys, "y mae Owen Williams wedi bod yn feius iawn yn hyn yna. Fe fyddai rhyw yspryd yn myned ag o i rywle yn bur fynych. Ond beth a wnewch chwi yn son? Felly y byddai fo yn cipio Phylip :— A Phylip a gaed yn Azotus,' heb neb am a wyddom ni yn ei ddysgwyl o yno."