Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IX.

MR. HUMPHREYS A'I FFRAETHEIRAU.

Y MAE pawb oedd yn gwybod dim am Mr. Humphreys yn dra adnabyddus o'r ystôr ddihysbydd o'r arabedd ffraethbert a'i nodweddai mor arbenig; ac yn y bennod hon ni a anrhegwn y darllenydd ag ychydig o'i ddywediadau pert a'i atebion parod. Yr oedd mor llawn o humour fel ag y byddai ei wrandawyr yn cael eu llwyr orchfygu ganddo, a byddai ambell i hen sant nad allai fwynhau yr hyn sydd yn naturiol i ddyn yn poeni ei enaid cyfiawn wrth weled y gynulleidfa yn gwenu. Ar ol iddo fod yn pregethu yn agos i'w gartref un bore Sabbath, aeth un o'r frawdoliaeth ato, yr hwn oedd yn dra adnabyddus fel un hynod o'r drwg ei dymer, a dywedodd: "Yn wir, Mr. Humphreys y mae yn rhaid i chwi beidio ag arfer yr holl eiriau digrif yna sydd genych; nid yw reswm yn y byd fod y bobol yn chwerthin cymaint wrth wrando arnoch yn pregethu." "Beth sydd arnat ti, Dick," ebe yntau, "maent mor naturiol i mi ag ydyw natur ddrwg i tithau."

Dro arall, pan mewn lle heb fod yn mhell oddi cartref, canai wrtho ei hunan ar ol myned i dŷ y capel:

"O Cusi, Cusi, newydd trwm
'Am Absalom."

"Ai canu yr wyt ti, dywed," gofynai hen flaenor lled bigog oedd yn y lle.

"Ie, beth am hyny?" gofynai Mr. Humphreys.

"Ymddygiad go ysgafn wyf yn ei gyfrif newydd fod yn pregethu," atebai yr hen frawd.

"Gallaf fod yn ysgafnach na hyn, a bod yn drymach na thi wed'yn, Edward," ebai yntau.

Y tro cyntaf yr aeth i Aberystwyth i bregethu dywedai un brawd wrtho: "Yr ydych yn fwy dyn o lawer nag yr oeddwn i wedi dychymygu am danoch."

"Y mae pob creadur mawr yn ddigon diniwed os caiff lonydd," ebai yntau; "y mae yr Elephant yn greadur