Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD




Nis gwn a ddysgwylir i mi roddi unrhyw esgusawd dros anturio dwyn allan Gofiant am y diweddar hybarch Richard Humphreys o'r Dyffryn ai peidio: credwyf na wneir. Onid oedd y neillduolion a ddisgleirient mor amlwg yn i gymeriad, a'r safle uchel a enillodd fel dyn, gwladwr, cristion, a gweinidog cymhwys y Testament Newydd, yn cyfiawn haeddu i'r deyrnged hon o barch gael ei thalu i'w goffadwriaeth? Buasai yn dda genyf pe syrthiasai i law rhywun mwy cymhwys na mi i osod allan mewn trefn ei hanes: ond er bod yn ymwybodol o fy annghymhwysder, yr oedd y parch dwfn a deimlwn i'w goffadwriaeth yn cymhell fy meddwl i edrych beth ellid wneyd er casglu adgofion am dano. Gwyddwn cyn dechreu fod y gwaith yn fawr, gan fod yn rhaid casglu y defnyddiau oddiar gof y rhai a'i hadwaenai, a llawer o'r rhai hyny fel yntau wedi huno. Ond er hyny credwn fod ei sylwadau doeth a'i atebion pert—fel yr esgyrn hyny—yn wasgaredig ar hyd wyneb y Dyffryn, ac ardaloedd eraill; ac ar ol gwneyd fy mwriad o'u casglu at eu gilydd yn hysbys trwy y Cyfarfod Misol, Y Goleuad, a llythyrau cyfrinachol, dechreuodd asgwrn dd'od at ei asgwrn; ac fel yr oeddynt yn dyfod i law, ymdrechais i gyfodi gïau a chig arnynt, a'u gwisgo â chroen, a gwnaethum fy ngoreu i anadlu