Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hysbyswyd ef o hyn, cyn myned allan, dywedai, " Na feindiwch, wêl neb mo'ni ar ol i mi ei rhoddi am fy mhen."

Yr oedd wedi cael ei anfon dros y Cyfarfod Misol i ryw eglwysi i gynnorthwyo i ddewis blaenoriaid, ac fe syrthiodd y coelbren ar un o'r brodyr. Wrth ymddyddan a'r brawd, dywedai yn ostyngedig iawn nad oedd efe wedi meddwl am y swydd, a bod yr Hollwybodol yn gwybod hyny. "Ie, ïe," meddai Humphreys, "yr wyt tithau wedi dod i ddeall fod y Brenin Mawr yn un da am gadw secret." Y gwir distaw oedd hyn, yr oedd y brawd yn chwenych y swydd, ac yr oedd yntau yn gwybod hyny.

Byddai yn hawdd ganddo fwyta a'i het am ei ben, a gofynodd cyfaill iddo unwaith paham na buasai yn ei thynu; a'i ateb oedd, "nad oedd dim drwg yn yr het ond pan y byddai y pen ynddi."

Canmolai un o'i gymydogion am ganu, ac atebodd y cymydog nad oedd ef ond canwr pur fychan. "Ie, ïe," meddai yntau, "bum yn sylwi ar yr iar gyda'r nos yn ymddangos yn bur ben-isel, ond ar y nen-bren y byddai ei golwg hi."

Fel yr oedd arwerthwr yn canmol rhyw nwyddau oedd ganddo yn eu gwerthu, dywedai am rywbeth oedd dan ei forthwyl: "Dyma i chwi beth a bery byth."

"Hir ydyw byth, Mr. E—," meddai Humphreys.

"A ddarfu i chwi ei fesur, Mr. Humphreys?" gofynai yr auctioneer.

"Naddo, neu buasai hyny yn brawf nad ydyw yn hir," oedd yr ateb.

Pan oedd y Parch. E. A. Owen yn gwasanaethu y ddwy eglwys Llanenddwyn a Llanddwye—cyfarfu Mr. Humphreys a Lewis Evans âg ef un bore Sabbath, a mynai Mr. Owen mai yn Llanenddwyn yr oedd y gwasanaeth i fod y bore hwnw, ond dywedai L. Evans mai yn Llanddwye ac ar ar ol peth dadl coffäodd L. Evans ryw ffaith barodd i'r person adgofio pa le yr oedd y gwasanaeth bore Sabbath blaenorol, a dywedai, "Chwi sydd yn eich lle, Lewis, chwi sydd yn eich lle." Wedi i'r gŵr parchedig adael y ddau, "Wel, Lewis Evans," meddai Humphreys, "dyna beth ydyw dyweyd pader i berson."

Yr oedd ganddo achos i alw yn y Gwynfryn gyda Major Nanney, ac yr oedd wedi gwneyd ystorm fawr y noson