Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynt, fel y dadwreiddiwyd un o'r coed mawr oedd o flaen y palas. Wrth fyned heibio, gofynodd y boneddwr: "Sut y mae y gwynt mor nerthol fel ag yr oedd yn gallu codi y fath bren o'r gwraidd ?" "Ho," ebe Mr. Humphreys, "y mae ei drosol yn hir iawn."

Sylwai cyfaill wrth edrych arno yn sychu ei draed wrth fyned i'r tŷ un diwrnod: "Yr ydych yn ofalus iawn, Mr. Humphreys." "Yr wyf wedi dysgu ufudd—dod trwy y pethau a ddioddefais," ebe yntau.

Yr oedd brawd dieithr yn pregethu yn y Dyffryn unwaith, ac aeth hen ŵr o gylch pedwar ugain oed i dŷ y capel i ofyn am y pregethwr. Wedi iddo fyned allan sylwodd y pregethwr: "Onid yw yr hen ŵr yna yn dal yn syth iawn ac ystyried ei oedran ?" "Ydyw," meddai Humphreys, "ond tynwch chwi yn ei fwa fe sytha fwy."

Dywedai ei was wrtho unwaith fod rhyw un yn ei feio am ryw syniadau oedd wedi eu traethu mewn pregeth. Felly," ebe yntau yn bur dawel, "ni wiw i mi mwy na dyn arall, ddisgwyl cael chwareu teg gan bawb; ond gad iddo, mi gaf chware' teg rhwng pawb."

Gofynai un o'i frodyr iddo a oedd efe yn hoffi trefn y Methodistiaid; a'i ateb ydoedd, "Ydwyf yn y pethau y mae trefn arnynt."

Pan ofynwyd iddo yn Nolwyddelen ryw Sabbath yr oedd yno, a fu efe erioed yn y Cyfyng, (gan feddwl y capel bach sydd yn rhan o'r daith). "Na, ni bum yn y Cyfyng," ebe yntau, "ond bu yn gyfyng arnaf lawer gwaith.'

Dywedai Mrs. Humphreys wrtho fod rhwygiad yn ei drousers. "Peth rhyfedd na buasai mwy pan ystyrir fod dau yn ei wisgo," atebai yntau.

Pan yn dyfod o'r capel un tro, dywedai Mrs. Hum phreys, "Richard, onid ydych yn gweled hwn a hwn yn gallu bod yn gas iawn, nid oes dim tua'r capel yna wrth ei fodd." "Gwyddoch chwi o'r goreu, Ann," ebai yntau, "mai gwaith llô ydyw brefu."

Dywedai am ryw ddyn oedd yn tybied ei fod wedi darganfod rhywbeth a'i galluogai i ehedeg, ac wedi gwneyd pob peth yn barod aeth y doethawr i ben craig, heb fod yn uchel iawn, ac ymdaflodd ar ei ddyfais, "ac os ydych yn y fan yna," ebe Mr. Humphreys, "fe fuasai wedi ehedeg, pe buasai ei gorph gan ysgafned a'i ben."

Pan yn eistedd ar gyfer y tân mewn tŷ lle y lletyai un