Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nos Sadwrn, cododd ei droed ar y fender; sylwodd Mrs. Jones, gwraig y tŷ, arno, a dywedodd, "Dear me, mae genych droed mawr, Mr. Humphreys," "Oes," ebe yntau gan godi y llall i fynu, "y mae genyf ddau."

Digwyddodd ef a brawd arall fod gyda'u gilydd yn adeg y diwygiad yn cadw cyfarfod pregethu: pregethodd ei gyfaill yn hwyliog, fel arfer, ac yr oedd yno orfoledd mawr. Cododd Mr. Humphreys ar ei ol a dywedodd yn bur dawel, ar ol darllen ei destyn, "Wel, gyfeillion, yr ydych wedi yfed yn bur uchel, beth fyddai i minau geisio tafellu tipyn o fara y bywyd i chwi eto.

Yr oedd rhyw ddyn bychan hunanol yn ymddyddan âg ef unwaith, yr hwn nad oedd Mr. Humphreys yn gwybod dim am dano o'r blaen; ac wedi i'r dyn fyned ymaith, gofynodd cyfaill iddo, "Beth yw eich barn am dano, Mr. Humphreys ?" "Wel," ebe yntau, "y mae yn rhy fawr fel nad ellir ychwanegu dim at ei faintioli."

Yn fuan wedi iddo symud i Bennal teimlai yr eglwys awydd cael ychwaneg o swyddogion, ond cynghorai yntau hwy i aros ychydig y deuai pethau yn fwy aeddfed cyn hir. Ond yn mlaen yr aethant, ac aeth cenadon dros y Cyfarfod Misol yno; ar ol bwrw coelbrenau cafwyd nad oedd yno neb wedi eu dewis. Pan hysbyswyd hyny, cododd Mr. Humphreys ei ddau lygad glân, ac edrychodd o amgylch, a dywedai, "Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymadaw o Creta, ac enill y sarhâd yma a'r golled."

Wrth ymddyddan am ryw frawd pur siaradus, dywedai cyfaill wrtho, "Diau ei fod yntau yn aelod o'r corph mawr cyffredinol." "Oh ydyw," ebe Humphreys. "Pa aelod ydych chwi yn ei feddwl ydyw, Mr. Humphreys ?" gofynai y cyfaill. "Ei dafod, 'rwy'n credu," oedd ei ateb. Yr oedd wedi myped i'r Gwynfryn un bore Sabbath i wrando ar gyfaill iddo yn pregethu, a gofynodd Mrs. Jones iddo aros i giniawa gyda hwy. "Na," ebe yntau, "y mae fy nghyhoeddiad yn y Faeldref am giniaw, a gwell i mi dori cyhoeddiad gyda phawb na chydag Ann." "Ie," ebe John Jones—un o hen flaenoriaid y Gwynfryn—" y mae merched yn burion nes yr ânt i suro." "Ho," meddai Mr. Humphreys, "ni bydd Ann byth yn suro, ond bydd weithiau yn sharpio, a gallaf fi yfed diod sharp, ond nid diod sur."

Wrth fyned o Faentwrog i Ffestiniog un Sabbath,