Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cafodd wlaw hynod ddwys. "Wel, beth ydych yn ei ddyweyd am yr hin yma, Mr. Humphreys?" ebe rhywun wrtho yn y pentref wedi cyrhaedd pen y daith. "Dyweyd," atebai, "nid oes genyf ond dyweyd mai gwir yw yr adnod, A chnawd arall sydd i bysgod;' y mae eu cnawd hwy wedi ei wneyd i fod yn y dŵr, ond yr wyf yn teimlo mai nid felly fy nghnawd i."

Yr oedd un Sabbath yn pregethu mewn capel bychan rhwng y Ddwy Afon,' lle yr oedd pregethwr poeth ei ysbryd, rhwydd ei ymadrodd, ond tueddol i fod yn isel, ac yn erwin o ran ei ddull, yn pregethu, wedi bod yn cadw odfa y nos Sadwrn blaenorol. Ar ol oedfa Mr. Humphreys dywedai y blaenor wrtho, "Rhyfedd iawn! yr oedd yma fwy yn gwrando ar —— neithiwr, nag arnoch chwi, Mr. Humphreys, ar fore Sabbath braf fel hyn." Na, nid mor rhyfedd," meddai yntau; "pregethwr gododd yr Hollalluog o bwrpas ar gyfer ffyliaid ydyw —— chwi a ddylech wybod fod mwy o lawer o ffyliaid yn y byd nag o bobl gall."

Aeth un o'r dosbarth hwnw a elwir y "grwgnachwyr" ato unwaith i gwyno yn erbyn y blaenoriaid, a dywedai na wnaent wrando ar ddim a ddywedai efe wrthynt. O'r diwedd blinodd Mr. Humphreys ar ei faldordd, a dywedai, "Nid yw ryfedd yn y byd eu bod yn gwrthod gwrando arnat, os wyt ti yn siarad cymaint o ynfydrwydd wrthynt hwy ag yr wyt ti gyda mi."

Dywedai Mrs. Humphreys wrtho unwaith ei fod yn pregethu hen bregethau; "Os byddaf yn rhoddi adgyfodiad i rai o honynt, nis gwyddoch chwi, Ann, â pha ryw gorph y deuant," ebe yntau.

Rywbryd mewn Cymdeithasfa yn Aberystwyth, yr oedd yno un brawd yn enwi rhyw frodyr at orchwylion y cyfarfod ac yn mhlith eraill yr oedd y diweddar Lewis Morris i wneyd rhywbeth. "'Does dim o Lewis Morris wedi d'od," ebe William Rowland, Blaenyplwy'. Fe ddaw o yma i gyd yn fuan, William Rowland," meddai Mr. Humphreys, "ac fe gewch chwi wel'd y bydd cryn swm o hono pan y daw o."

Cwynai un hen frawd mewn Cyfarfod Misol unwaith, am fod rhyw gwestiynau ffol yn cael eu gofyn, megys, "A ydyw y diafol yn berson?" Er mwyn cael gwared o'r mater dywedai Mr. Humphreys, "Buasai