Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn o lew iddo fo fod yn glochydd, chwaethach yn berson."

Pan ar daith yn y Deheudir un tro, digwyddodd iddo gyfarfod â brawd yr hwn oedd yn un o wyliedyddion yr athrawiaeth yn y Gogledd, ac am yr hwn yr oedd rhyw chwedlau isel yn cael eu lledaenu. Y maent yn dyweyd i mi," ebe y brawd hwnw, "nad ydych chwi, Humphreys, yn pregethu athrawiaeth iachus." "Y maent yn dyweyd i minau," atebai Mr. Humphreys, "na byddwch chwi yn pregethu athrawiaeth yn y byd yn fuan."

Yr oedd cymydog yn syrthio yn fynych i ryw feiau, a thrwy hyny yn peri gofid a blinder mawr i swyddogion yr eglwys lle yr oedd yn aelod; ac un tro fe aeth Mr. Humphreys ato a dywedodd wrtho, "Nid wyf yn ameu nad wyt ti, Dick, yn rhyw lun o Gristion, ond y mae yn arw o beth fod y cythraul yn gwneyd ffwl o honot, a dy yru o'i flaen fel berfa olwyn i bob drwg."

Pan oedd yn eistedd mewn tŷ capel unwaith, daeth dyn mawr tew a chorffol i mewn dan chwythu a thagu, a deallodd Mr. Humphreys ar yr olwg arno y buasai mwy o waith yn lles iddo, ac ebe fe wrth y blonegawg, "Ni waeth i ddyn ddarfod wrth dreulio na darfod wrth rydu."

Pan yn pregethu rhyw noson waith yn Nolwyddelen, ar y ffordd i Gymdeithasfa Llanrwst, lle yr oedd yn myned ar ei draed, gofynodd un o'r cyfeillion iddo, "Sut y mae gŵr o'ch safle chwi yn myned i'r gymanfa ar eich traed?" "Wel," meddai yntau, "yr wyf yn meddwl fod yn well. ganddynt weled pobol yno na cheffylau."

Terfynwn y bennod hon gyda hanesyn am Mr. Humphreys a'r diweddar Mr. Robert Griffith, Dolgellau, yr hwn a gawsom gan y Parch. Owen Thomas, Liverpool. "Yn Nghymanfa y Bala, yn y flwyddyn 1835, yr oedd Mr. James Hughes, o Leyn, Mr. Robert Griffith, Dolgellau, Mr. Humphreys, a minau, yn cysgu yn yr un ystafell, a dau wely ynddi. Yr oedd math o drawst dros yr ystafell, uwch ben y gwely lle y gorweddai Mr. R. Griffith a Mr. Humphreys, a phan yr oedd yr hen frawd o Ddolgellau yn myned i'r gwely, fe darawodd ei ben yn drwm yn erbyn y trawst hwnw, nes yr ofnem ei fod wedi cael cryn niwed. Yn wir, Robert Griffith bach,' meddai Mr Humphreys, mi allaswn i ddysgwyl eich bod wedi cyrhaedd digon o