Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedran bellach i wybod y gallai dyn trwy blygu tipyn ysgoi llawer dyrnod yn yr hen fyd yma; ond nid ydyw deddfau y Duw mawr, mewn natur mwy na gras, yn arbed na hen nac ieuangc a'u toro hwynt.' Gyda hyny, pan oedd Mr. Humphreys ei hunan yn myned i'w wely, dyna yntau yn taro ei ben, fel yr hen frawd o'i flaen, ond nid yn llawn can waethed. Wel dyna hi,' meddai Robert Griffith, 'dyna chwi yn ffolach na minau, chwi ddylasech ddysgu rhywbeth ar fy anffawd i, yn enwedig newydd i chwi fod yn pregethu i mi.' Ië, ïe,' meddai Mr. Humphreys, ond, ysywaeth, yr wyf wedi bod fel yna lawer gwaith o'r blaen yn pregethu i eraill, ac yn annghofio fy nyledswyddau fy hunan."