Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyned ar ei ergyd i'r graig, ni byddai un pin gwaeth; ond pe byddai i long fawr, a phob peth ynddi wedi ei wneyd yn y modd cryfaf, fyned yn erbyn craig felly, fe fyddai i hono fyned yn ddrylliau yn y fan. Dyma y wers, ychwanegai: Y mae natur defnydd y fath fel nad oes modd ychwanegu cryfder yn ol cyfartaledd y maintioli.' Yna âi yn mlaen: Dyma wers arall y dymunwn i ti ei deall, Fod yr Arglwydd wedi cadw rhyw bethau o'i weithredoedd yn eiddo iddo ei hunan, fel nas gall dyn eu cyffwrdd hwy. Dyna un peth, rhoddi tyfiant yn ei waith. Duw bia hyny yn hollol. Os bydd ar ddyn eisieu llong, rhaid iddo ei gwneyd yn llong; ni wiw iddo wneyd cwch bach, a disgwyl iddo dyfu yn llong mewn rhyw bedair neu bump o flynyddoedd. Ond dyma gymal pen dy lin di yn tyfu yn ei le fel y mae ef. Gall saer pur gelfydd wneyd cymal fel yna, a'i wneyd hefyd i weithio fel dy lin di; ond gormod o gamp i'r saer beri iddo dyfu. Ond y mae dy gymal di yn tyfu heb i ti deimlo poen ynddo. Duw yn unig bia rhoddi tyfiant yn ei waith. Peth arall y mae Duw wedi ei gadw iddo ei hunan ydyw y gallu sydd gan greadur i genhedlu ei ryw. Y mae dyn yn gallu gwneyd pethau cywrain iawn: dyna watch—y mae llawer o gywreinrwydd ynddi; ond ni feddyliodd yr un Watchmaker erioed am geisio gwneyd watch i fagu watches bach; na, y mae yna ryw bellder nas gall dyn mo'i fesur. Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio," ebe fy hysbysydd, "Nos Sabbath yr oedd yn pregethu ar y geiriau, Uwch yw fy ffyrdd i nâ'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i nâ'ch meddyliau chwi ;' a bron yr un oedd materion y bregeth a thestun yr ymddyddan, ond eu bod wedi eu cyfaddasu mor hapus ganddo yn iaith yr efengyl, fel nad oedd yno un gair anweddus i symlrwydd y pulpud."

Y mae yr eglurhad hwn yn esponiad am y modd y byddai yn gallu pregethu ar adnodau na byddai wedi meddwl am danynt ond am ychydig amser cyn myned i'r capel. Yr oedd yn aros un noswaith gyda'r Parch. William Davies, Llanegryn—pan oedd Mr. Davies yn byw yn Llanelltyd ar ei ffordd i'r Bala at y Sabbath, ac wrth gychwyn i ffordd boreu Sadwrn, gofynai, "Pa le mae yr adnod hono, (——) William, edrych am dani i mi," ac ychwanegai, Yr wyf yn meddwl dyweyd ychydig arni yfory yn y Bala." Yr oedd dro arall yn myned gyda Mrs. Humphreys a'r teulu i gapel y Dyffryn i bregethu rhyw