Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

noson waith, ac ar riw Dolgau, gofynai, "A oes genych yr un testun i mi at heno." "Nid yn awr yr ydych yn holi am destun," meddai Mrs. Humphreys; "Bum yn bwriadu gofyn i chwi bregethu ar yr adnod hono (——) lawer gwaith, ond nid heno Richard Humphreys," ychwanegai. Ond er ei mawr syndod dyna yr adnod a gymerodd yn destun y noson hono, a phregethodd yn dda oddiarni. Y mae yn ymddangos ei bod yn nghanol y wythien y byddai ef yn arfer gweithio arni. Y mae hanesyn arall pur darawiadol am dano ar hyn. Digwyddodd iddo fod yn Nolgellau ddau Sabbath yn bur agos i'w gilydd ; ac wrth ddarllen ei destun bore yr ail Sabbath o'r ddau, fe feddyliodd mai yr un ydoedd ag oedd ganddo y Sabbath o'r blaen; ond wedi iddo ei ddarllen, yn hytrach na chymeryd ail destun, ymdrechodd i fyned i'w daith ar hyd ffordd arall. Ar ol myned i'w lety, gofynodd i Mr. Williams, "A glywsai efe ef yn pregethu ar y gair yna o'r blaen?" "Do," ebe Mr. Williams, " dyna yr adnod oedd genych y tro diweddaf, ond nid yr un oedd y bregeth." "Meddyliais wrth echo yr adnod pan y darllenais hi mai dyna oedd genyf, felly mi geisiais am ryw lwybr newydd i draethu arni." Clywais Mr. Williams yn dyweyd nas gwyddai pa un o'r ddwy bregeth oedd yr oreu; ac y mae hyn yn dangos pa mor gyflawn yr oedd ei feddwl wedi ei ddodrefnu â gwirioneddau yr efengyl.

Bellach ni a ddechreuwn gofnodi rhai o'i sylwadau, a gellir dyweyd am danynt, os nad oeddynt mor boblogaidd yn y traddodiad o honynt ag y dylasent fod, er hyny y maent yn nwyddau sydd yn gwisgo yn dda ragorol. Dywedai un blaenor, yr hwn erbyn hyn sydd yn henafgwr parchus, ac a fu am dymor yn America, Byddwn yn cael mwy o bleser ar y pryd yn gwrando ar hwn a hwn yn pregethu nag ar Mr. Humphreys; ond pethau Mr. Humphreys a nofiodd gyda mi i dir y Gorllewin pell:" ac ychwanegai, "Ni byddai fawr ddiwrnod yn pasio na byddai rhai o'i ddywediadau ef yn myned trwy fy meddwl."

"I'r pant o edifeirwch y rhêd y dwfr o faddeuant."

"Y mae parch yn beth i'w enill ac nid i'w ddemandio."

"Bendith fawr ydyw cael rhan o'r byd hwn; ond cael y byd yn rhan sydd yn felldith drom."

"Ni raid i ni ofyn i'r Duw mawr am gyfiawnder ni a'i cawn; ond am drugaredd rhaid gofyn am dani."