Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Yr oedd ein rhieni yn Eden ar y cyntaf yn dirwyn dedwyddwch oddiar bellen sancteiddrwydd; ond daeth pechod i mewn a dyrysodd y pricied."

"Heb gyfrif.—Ni welaist ti neb erioed yn dy ffitio yn well na Iesu Grist, Cymodi heb gyfrif' ag un heb ddim i dalu."

"Mae eisieu i ni fyned at Iesu Grist heb ddim ; ond i'r byd mewn gwisgoedd o ogoniant."

"Mae mwy o ddarllen ar grefyddwyr nag ar y Beibl."

"Rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed.—Ac mi ddywedaf i chwi beth, mhobol i, nid aeth y mab afradlon byth ar hyd yr hen lwybrau ar ol iddo gael esgidiau newyddion."

"Gwaedoliaeth.—Nid yw gwaedoliaeth ddim ond cyfoeth yn aros yn hir yn y teulu."

"Addoli. Y mae addoli yn cynwys tipyn o wybodaeth ac o anwybodaeth am y gwrthddrych. Nis gallwch addoli gwrthddrych os na byddwch yn gwybod rhywbeth am dano; ac nis gellwch addoli os na bydd y gwrthddrych yn rhy fawr i chwi allu gwybod yr oll am dano."

"Neb i'w addoli ond Duw.—Y mae plant yn greaduriaid pur hawdd i'w hoffi, yn enwedig tra yn fychain; ond os â y rhieni i'w haddoli, hwy a droant allan yn dduwiau seilion yn wir; gwell fyddai addoli duwiau o bren a maen, canys ni byddai i'r rhai hyny fyned yn waeth wrth eu haddoli. Ac er y dylai gwraig garu ei gŵr, eto ni wna efe ond duw gwael iddi; ac er y dylai y gŵr garu ei wraig, ni wna hithau well dduwies iddo na Diana. Yr ydym i addoli Duw yn unig, am mai ef yn unig sydd yn werth ei addoli."

"Duw a digon.—Creadur bychan yw dyn mewn cymhariaeth, ond y mae wedi ei wneuthur i gynwys llawer. Er nad yw ei angenion amserol ond ychydig, y mae ei ddymuniadau yn fawrion ac eang. Y mae yn hawdd digoni natur, ond nis gellir boddloni chwant. Gwaedda gwag bleserau o hyd, Melus, moes, mwy. Pe yr addolid y bachgen gan Asia, a'r byd oll, efe a ddymunai ychwaneg o anrhydedd. A pha le y gwelwyd y cybydd yn dyweyd, Digon? Pa beth? Ai nid oes ganddo ddigon o aur ac arian i brynu ei angenrheidiau? Oes, a llawer yn weddill. Paham nad ymfoddlonai ar hyny? Dyma y paham, am ei fod yn gallu dymuno ychwaneg. Ond y