Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neb a gafodd Dduw a gafodd ddigon, am nas gall ddymuno mwy. Nis gellir llanw y lle a gadwodd Duw iddo ei hunan yn nghalon dyn â dim, nac â'r oll a greodd efe. Pe rhoddid i ddyn haner ymerodraeth yr Hollalluog, byddai arno eisieu iddo ei hun yr haner arall; a phe caffai y cwbl, fe deimlai ei wagder er hyny, nes iddo gaffael Duw ei hunan. Ond yr enaid a all ddywedyd fod yr Arglwydd. iddo yn rhan, a all ddyweyd, Digon yw! Nefoedd fechan ar y ddaear yw dechreu mwynhau Duw, a'r nefoedd fawr a pherffaith a fydd ei weled yn Nghrist fel y mae, a bod byth yn gyffelyb iddo."

"Nis gall ond dyn addoli.—Y mae adar a all siarad a chanu, ond dyn yn unig sydd yn gallu addoli."

"Cofia yn awr dy Greawdwr.—Yn eich gwaith yn ei gofio yr ydych mewn bod iddo ef. Y mae dynion ieuaingc yn bur hapus cyn priodi; ond wedi iddynt briodi, a chael plant, nid ydynt yn leicio eu colli. Felly yr oedd y Duw mawr yn berffaith ddedwydd ynddo ei hunan cyn gosod y gogledd ar y gwagle, na chreu yr un creadur, ond wedi iddo roddi bod i chwi, nid yw yn leicio eich colli: cofiwch ef."

"Nid oes dim drwg mewn duwioldeb serch fod drwg mewn duwiolion. Purdeb ydyw hi, ac ni bydd wedi gorphen ei gwaith nes cael ei pherchenog yn gwbl yr un fath a hi ei hunan. Nid yw gras yn ymgymysgu â llygredd."

"Y rhai sydd wedi eu galw yn ol ei arfaeth ef.—Y mae rhai yn meddwl fod arfaeth Duw ar ei ffordd hwy i fyn'd i'r nefoedd. Maent yn debyg iawn i'r ŵydd yn myned o dan y bont, bydd yn rhaid iddi gael gostwng ei phen pe byddai yr arch gan' llath yn uwch na hi."

"Ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.—Nid oes myned i fewn ac allan o drefn gras. Yn y Zoological Gardens, yn Llundain, mae yno un ffordd i fyned i mewn, lle y derbynir rhai trwy dalu, a gates eraill i fyned allan pan y myno dyn, ond nid i ddychwelyd i mewn trwy y rhai hyny drachefn. Y mae teyrnas gras yn agored i rai ddyfod i mewn iddi, ond nid i fyned ymaith o honi. Wedi y delo yr enaid i mewn unwaith, allan nid ä mwy."

"Pechod yn aflendid.—Y mae pechod wedi myned yn aflendid y natur ddynol: hen ystaen ofnadwy ydyw, ac y mae yn anhawdd iawn i'w gael i ffordd. Yn gyffredin, po