Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neisiaf y byddo peth, aflanaf fydd wedi ei ddifwyno, ac anhawddaf ei olchi. Y mae careg aflan yn fwy anhardd nag un lân y mae anifail aflan yn wrthunach: y mae dyn aflan yn anmhrydferthach eto: ac y mae merch aflan yn wrthunach fyth: ond o bob peth aflan, enaid neu yspryd aflan yw yr hyllaf, gan ei fod wedi ei wneyd yn fwy refined na dim arall. Ond y mae yn nhrefn iachawdwriaeth fodd i olchi yr enaid oddiwrth ei aflendid: ac y mae miloedd eisoes wedi eu golchi, yn moli am eu cânu yn yn ngwaed yr Oen."

"Manteision heb yr anfanteision.—Nid oes yn y byd hwn yr un fantais heb anfantais yn ei chanlyn. Y bobl sydd am fyned i'r America, meddwl myned yno er eu mantais y maent. Y mae y tir yno yn rhad, a phris uchel ar lafur : ond y mae anfantais yn nglyn â hyny. Os oes yno dir bras, y mae effeithiau annghyfanedd—dra llawer oes ar y ffordd i'w fwynhau. Felly y mae yn y byd hwn, y mae pwll o flaen y drws, neu gareg lithrig o flaen tŷ pob un. Ond yn nheyrnas Dduw ceir y manteision heb yr anfanteision gyferbyn â hwy. Ceisiwch deyrnas Dduw ;' yn wir, pe byddech wedi ymfudo yma ni chwynech byth am yr 'hen wlad."

"Ymrysonau.—Y mae yn y byd yma lawer iawn o groesdynu, fel cŵn yn ymryson am yr un asgwrn, a dim modd ond i un ei gael. Y neb sydd o duedd ymrafaelgar, rhaid iddo fod a'i gleddyf a'i fwa yn ei law o hyd; caiff ddigon o waith i amddiffyn ei hun o ryw gwr yn barhaus. A pheth pur ddienill ydyw ymrafaelio. Clywais fod y Dutchmen yn rhoddi yn arwydd (sign) ar eu tafarndai lun buwch, a Sais yn tynu yn un corn iddi a Ffrancwr yn y llall, a Dutchman yn ei godro. Nid yw y bobl gwerylgar yn cael dim ond y cyrn i'w dwlaw, ac hwyrach y cânt eu cornio hefyd: pobl eraill a gaiff y llaeth."

"Mwyneidd-dra yr Efengyl.—Dywedir fod modd trin pawb ryw sut, naill ai trwy deg neu trwy hagr; eithr nid oes ond yspryd yr efengyl a fwyneiddia bawb yn rhwydd. Gobaith gwlad well yn mhen draw y daith a dymhera ddyn i ddygymod a llawer peth cas ar y ffordd."

"Dyn wedi gogwyddo.—Peth syth ydyw sancteiddrwydd, ond y mae y natur ddynol wedi gogwyddo trwy bechod; ac at hunan y mae ei ogwydd. Wedi i ddyn lawer pryd geisio barnu pethau yn o uniawn, mae y duedd gref sydd yn ei natur yn ei gario ato ac iddo ei hun bron yn ddiar-