Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y mae ein Harglwydd yn y ddammeg hon. 'Min y ffordd ' yw dynion o feddyliau bychain, nas gellir rhoddi ond ychydig ynddynt. Y Creigleoedd,' dynion o feddyliau gweiniaid, ac anwadal, nas gellir hyderu ynddynt am eu parhad gyda dim; rhai hawdd argraffu arnynt, ond yn colli yr argraff hono yn fuan. Y Tir—dreiniog,' dynion o feddyliau galluog ac anturiaethus. Rhai felly fydd yn ymlwytho â gofalon bydol, os heb ras. Ond mewn rhai felly, os cânt ras, y ffrwytha yr had ar ei ganfed.' Yn y 'Creigleoedd wedi cael gras, ar ei dri—ugeinfed;' ac yn Min y ffordd ar ei ddegfed ar hugain.'

"Mae y diafol wedi cael goruchafiaeth ar ein natur ni, ond nid oes ganddo hawl arni."

"Yr hwn a'n symudodd ni.—Nid yw bod dyn yn bechadur yn un prawf y bydd yn uffern; y mae y Duw mawr o'i ras yn symud. Os nad yw pechod yn llywodraethu, yr wyt yn ddiogel, ac nis gall y diafol ond vexio y dyn duwiol."

"Chwilod o ddynion.—Y mae y Brenin mawr wedi cyfranu cryn lawer o synwyr i'r creaduriaid direswm; dyna y ceffyl, y fuwch, a'r ci, y mae pob un o honynt wedi cael digon o synwyr i gydnabod dyn: ond am y chwilen bach sydd yn y llwch wrth eich traed, mae hi mor fechan fel nas gall weled dim allan o honi ei hunan; ni welodd hi neb mwy na hi ei hun: y mae hi mor hyf ar y brenin ac ar y beggar. Wel, mhobol i, y mae rhyw chwilod o ddynion felly i'w cael ar hyd y byd yma, na welson' nhw neb erioed mwy na hwy eu hunain, ac mi a'ch marchogant chwi byth a hefyd, os cânt lonydd."

"Dewis y gwir Dduw yn Dduw.—Gwnewch mor gall, mhobol i, ag y gwnaeth Esop, wrth fyned gyda mintai i ben y mynydd; yr oedd yno lawer o glud—gelfi ac ymborth yn cael eu darparu ar gyfer y daith, a phawb yn dewis ei faich ond dewisodd Esop y baich bwyd i'w gario; ac fel yr oeddynt yn esgyn i fyny, yr oeddynt yn gorphwys ac yn ymborthi; ac wedi hyny cychwyn a phob un a'i faich ei hun, ac yr oedd baich pawb yn cadw ei bwysau, neu yn hytrach yn trymhau fel yr oeddynt yn dringo, ond baich Esop; yr oedd ei faich ef yn ysgafnach bob tro y gorphwysent, a mwy na hyny yr oedd baich Esop yn rhoddi nerth adnewyddol bob tro i ail gychwyn. Felly chwithau, fy mhobol i, dewiswch yr Arglwydd yn Dduw i chwi,