Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cewch y bydd ei iau yn esmwyth a'i faich yn ysgafn, a chewch fwrw eich baich arno, ac efe a'ch cynal chwi a'ch beichiau."

"Un drwg ydyw pechod.—I gael golwg ar ddrwg pechod yn iawn, dylem edrych, nid yn unig ar yr hyn a wnaeth yn y byd yma, ond ar yr hyn a wnai pe cai."

"Nid yw Duw yn ddim i neb er mwyn Iesu Grist, ond i'r pechadur edifeiriol."

"Heb gyfrif iddynt eu pechodau.—Nid yw heb wybod eu bod yn bechaduriaid, a gwneyd iddynt hwythau wybod, ond heb gyfrif euogrwydd eu pechodau yn eu herbyn."

"Gwybodaeth gartrefol.—Mae yn gymwys fod y wybodaeth sydd genym yn wybodaeth gartrefol—gwybod ein hanes ein hunain yn gyntaf. Dyn cloff, diffygiol, fyddai hwnw a allai ddyweyd hanes ei gymydogion, ac heb ei adnabod ei hun; ynfytyn a fyddai er pob peth."

"Calon newydd.—Mae rhoddi calon newydd i bechadur yn beth na ddichon neb ond Duw ei wneuthur, ac am hyny y mae efe yn addaw, Rhoddaf i chwi galon newydd;' ond y mae arfer y moddion trwy ba rai y mae Duw yn gwneyd hyny yn ddyledswydd ar ddyn, ac am hyny y mae Duw yn gorchymyn, Gwnewch i chwi galon newydd.'

Trefn i gadw.—Peth mawr a rhyfedd oedd cael trefn i gadw pechadur colledig, ond nid cymaint o beth yn awr yw ei gadw trwy y drefn a luniwyd. Yr oedd yn grynbeth gwneyd a gosod crane i ddechreu; ond nid cymaint o beth yw i hwnw godi tunellau o bwysau ar ol ei osod yn ei le."

"Yr iachawdwriaeth yn ffitio pawb.—Nid yw dynion wedi eu ffitio i bob peth. Mae gan ambell ddyn lympiau o ddwylaw tewion, na thalent ddim i wneyd watch. Ond y mae pawb yn ffitio i'r iachawdwriaeth, a'r iachawdwriaeth yn eu ffitio hwythau; hi a achub frenin a chardotyn yn ddiwahaniaeth.'

"Iachawdwriaeth fawr.—Mae Duw yn y greadigaeth wedi darparu lluosogrwydd a digonolrwydd o'r pethau yr oedd eisieu helaethder o honynt. Ni wnewch chwi byth Gader Idris o aur y byd: ychydig bach, mewn cymhariaeth, sydd o aur i'w gael. Ond y mae cyflawnder o ddwfr yn y môr, canys yr oedd ei eisieu yn fawr iawn. Bum i, pan yn fachgen, yn meddwl y buasai yn well fod y môr sydd rhwng y Dyffryn a Sir Gaernarfon yn dir braf, er mwyn