Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i blant dynion gael digon o hono. Ond erbyn i mi ddeall, y mae eisieu i'r môr fod yn fawr fel y mae, gan mai o'r môr y dyfrheir y ddaear, a phe buasai yn llai, ni buasai yn ddigon i'r perwyl ei hamcanwyd. Y mae hefyd ryw doraeth o oleuni a gwres yn yr haul, ac yr oedd eisieu iddo, fel canolbwynt cymaint o fydoedd, fod ei wres a'i oleuni yn fawr. Wel, fel hyn hefyd y mae yr iachawdwriaeth sydd yn y Cyfryngwr. Gwyddai Duw fod angen y pechadur yn fawr, ac efe a drefnodd iachawdwriaeth fawr, Iawn mawr yw yr Iawn; canys yr hwn sydd uwchlaw pawb, Efe yw yr Iawn.'"

"Bywyd a bery.—Mae etifeddiaethau y ddaear yn myned yn llai wrth eu rhanu. Wrth i blant Israel ranu gwlad Canaan i'w plant, a'u plant hwy drachefn i'w plant hwythau, yr oedd eu hetifeddiaethau yn myned yn llai o hyd. Ond er i lawer o'r newydd gael Duw yn rhan ac yn etifeddiaeth, nid yw rhan neb a'i hetifeddo yn myned yn llai, y mae holl gyflawnder y Duwdod yn eiddo pob credadyn. Mae bara wrth ei ddefnyddio yn darfod, ond nid yw Bara y bywyd yn lleihau dim wrth ei fwyta; 'bwyd a bery i fywyd tragwyddol' ydyw."

"Dilyn o hirbell.—Byddaf yn gweled rhai gyda chrefydd yn bur debyg fel y bydd cymydogion mewn claddedigaeth; gwelir rhai yn cerdded llwybrau cyfochrog a'r ffordd—am y gwrych a hwynt, eraill yn tori cyfarfod iddynt yn lle rowndio y tröad oedd yn y ffordd; ond bydd yno ryw nifer bach yn cadw o amgylch yr elor, a'u hysgwyddau yn aml o dan yr arch."

"Ac i ti er yn fachgen.—Y mae tref yn Lloegr lle y mae llawer yn byw ar wneyd hoelion, a bydd y plant yn chwareu gwneyd hoelion; ond fel y byddant yn tyfu i fyny, fe fydd gwneyd hoelion yn myned yn fywioliaeth. iddynt; a phe gofynid pa bryd y darfu iddynt ddysgu, nis gwyddant. Felly y mae llawer o'r plant a fagwyd yn ein heglwysi, y maent wedi ymarfer â phethau crefydd er yn blant, ond fel y maent yn tyfu i fyny y maent yn dyfod i ymdeimlo â'u rhwymedigaeth fel rhai yn proffesu, ond pe gofynid iddynt pa bryd y daethant i ymdeimlo felly, nis gallant ddyweyd."

"Y mae rhai pethau nad oes arnaf eisieu newid dim arnynt y Duw mawr—y Cyfryngwr mawr—a'r drefn fawr y maent wrth fy modd."