glywed heb iddo waeddi dim. Nis gallaf ddesgrifio mor ddyfal ac effeithiol yr oedd yn gweddio y tro hwn. Nesäai at orsedd—faingc y gras mewn llawn hyder ffydd. Siaradai a'r Arglwydd fel yr ymddyddanai gŵr gyda'i gyfaill, ac er hyny yn wylaidd, gyda pharchedig ofn. Yn y weddi hon, fel pob amser, cydnabyddai yr Arglwydd am yr amlygiadau a roes efe o hono ei hunan yn nghreadigaeth pob peth, ac am ei fod a'i orseddfaingo yn y nefoedd yn ddigon uchel i lywodraethu ar bob peth, ac yn neillduol fel Duw pob gras, yn mawredd ei gariad yn anfoniad ei uniganedig Fab i'r byd, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Ac wrth son am fawredd cariad Duw, cynhyrfodd ei yspryd, newidiodd tôn ei lais, a chyda rhyw wên siriol ar ei wyneb, gogwyddodd ei ben, ac estynodd ei law yn arafaidd a dywedai yn llawn serchogrwydd, "Bendigedig a fyddo dy enw sanotaidd byth ac yn dragywydd;" a'r holl bobl o dan ddylanwad yr un yspryd a ddywedasant, "Amen." Mewn cwr arall o'i adgofion y mae yn cyfeirio at ei weddïau yn y teulu,—a dywedasom mewn pennod arall, fod dylanwad yr addoliad teuluaidd yn fawr yn y Faeldref.—A ein hysbysydd yn mlaen fel hyn, "Gorchfywyd ni lawer tro ganddo, yn enwedig pan y byddai yn ein cyflwyno i ofal y Brenin Mawr, gan ddymuno iddo fod yn Dduw i ni i gyd, fel yr oedd yn Greawdwr a Chynhaliwr i ni. Ie, dywedai, 'Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob; Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, bydd yn Dduw i ninau. Yr ydym wedi dy adael yn foreu iawn, ac y mae arglwyddi eraill lawer heblaw tydi a arglwyddiaethasant arnom ni. Yr ydwyt yn ewyllysio bod yn Dduw i dy greaduriaid, yr ydym ninau yn ewyllysio dy gael yn Dduw i ninau. Nid oes dim a leinw dy le, ond os cawn ni di yn dy Anwyl Fab, fe gawn ddigon am amser a thragwyddoldeb, Gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.' Yna ychwanegai gofio Hâd Abraham, yr hen genedl, gan ddywedyd, Y maent yn garedigion i ni oblegyd y tadau, brysied yr amser iddynt gael eu himpio i mewn yn eu holewwydden eu hun, cyflawnder y cenhedloedd a ddelo i mewn i dy dŷ yn fuan, a holl Israel yn gadwedig.' Ni byddai Mr. Humphreys un amser yn annghofio yr hen genedl; pa un bynag ai yn ei dŷ ei hun, ai yn y capel, ai ar y maes ar ddydd y
Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/141
Gwedd