Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gymanfa, y plygai efe ger bron Duw, byddai hiliogaeth Jacob yn sicr o gael eu gosod yn daclus ganddo ger bron yr orsedd; ac nid oedd dim yn brawf gwell mai nid rhywbeth ffurfiol ynddo oedd hyn na'r newydd—deb gwastadol a deimlid yn ei erfyniadau ar eu rhan; ac ni buasai dim yn cadw y fath newydd-deb ynddynt ond y teimlad byw fyddai yn ei daflu i'w erfyniadau. Clywsom fod rhyw hen wr wedi myned i Gymdeithasfa Pwllheli yn methu a chofio pwy oedd y gweinidog oedd yn dechreu yr oedfa: teimlai y dylasai ei adnabod, ond yn ei fyw ni allasai ei gofio; ond o'r diwedd dechreuodd y pregethwr weddio dros yr hen genedl, ac yn y fan fe gofiodd yr hen ŵr mai Mr. Humphreys, Dyffryn, ydoedd. Dywed un cyfaill wrth gyfeirio at ei waith yn gweddio dros hiliogaeth Jacob, na buasai yn anhawdd ganddo ef gredu—os ydyw arferion y nefoedd rywbeth yn debyg i eiddo y ddaear—nad oedd Abraham, Isaac, a Jacob, Moses, a'r holl brophwydi yn brysio i'w gyfarfod yn llu ardderchog, a'u telynau aur yn eu dwylaw i'w groesawu a diolch iddo fel y diolchai nefolion—am gariad ei fynwes tuag at eu cenedl hwy pan ar y ddaear.

Byddai rhyw arogl esmwyth yn dilyn ei waith yn cydnabod Duw am ei drefn, a'r dadganiad fyddai yn ei wneyd o'i ymorphwysiad arni. Yr oedd yn dechreu yr oedfa o flaen y Parch. Joseph Thomas, Carno, yn Mhennal unwaith, a hyny yn lled agos i ddiwedd ei oes. Dywedai gyda llewyrch mawr, "Y mae genyt drefn i gadw, y mae yn hen drefn. Diolch i ti am dani. Nid oes fawr o amser er pan glywsom ni son am dani. Yr ydym wedi ei leicio. Nid oes arnom eisieu yr un drefn arall, a phe buasai trefn arall yn bod, gwell genym hon." Ond efallai mai yr hyn a adawodd yr argraffiadau dyfnaf ar feddyliau y gynulleidfa ydoedd, taerni ei erfyniadau am gael Duw yn Dduw iddynt, a rhoddai ei hunan yn y troop bob amser. Dywedai yn debyg i hyn, "Diolch am fod genyt drefn i fod yn Dduw i ni. Nid ydym yn gwybod ond ychydig am danat, y Duw Mawr, ond ni chymerem y byd am yr hyn a wyddom," yna ychwanegai, "Bydd yn Dduw i ni; yr wyt yn Greawdwr i ni, bydd yn Dduw i ni. Ein Creawdwr fyddo yn Dduw i ni, a'n Barnwr a fyddo i ni yn Waredwr," a diweddglo ei weddi bron bob amser a fyddai, "Bydd yn Dduw i ni oll, a bydd yn Dduw i ni byth