Pan y coffawyd yn y weddi ar lan y bedd, ddydd ei gladdedigaeth, ei hen erfyniad ef ei hunan, "BYDD YN DDUW I NI," yr oedd rhyw effeithiau nerthol yn eu dilyn ar feddyliau y dyrfa fawr oedd wedi ymgasglu i'w osod yn "nhy ei hir gartref," a hyny yn cael ei achosi yn ddiau gan yr adgofion bywiog oedd yn eu mynwesau am ei waith yntau yn gofyn yr un pethau ar eu rhan, ac oddiar y grediniaeth ddiysgog oedd yn eu mynwesau ei fod ef ei hunan wedi cael Duw yn Dduw iddo, ac wedi dechreu ar dragwyddoldeb o fwynhau Duw yn Nghrist, a'i holl erfyniadau wedi eu troi yn dderbyniadau.
Byddai yn dangos chwaeth dda bob amser yn netholiad yr Hymnau a roddai allan i'w canu; ac yr oedd ganddo ei hoff bennillion; byddent yn hollol ysgrythyrol ac efengylaidd o ran syniadau, a byddant yn Fawl-eiriau. Ni chafodd Salmau yr Archddiacon Prys eu hacenu erioed yn well na chan Mr. Humphreys, ac ni a ddodwn un o'i hoff Salmau i lawr, er mantais i'r darllenydd i'w hadgofio.
"Da wyt i'th dir, Jehofah Ner,
Dychwelaist gaethder Iago,
Maddeuaist drawsedd dy bobl di,
Mae'n camwedd wedi ei guddio."