hanes ei ddyddiau olaf. Dywedai, "Yr oeddwn yn teimlo yn mhresenoldeb Mr. Humphreys fel Pedr gynt yn nghymdeithas ei feistr mawr, ac yr oeddwn yn mwynhau llawer o'r un yspryd ag yntau: a buaswn yn foddlawn i aros gydag ef am lawer mwy pe buasai hyny yn angenrheidiol. Yr oedd yno rywbeth neillduol nas gallaf roddi cyfrif am dano na'i ddesgrifio. Y mae arnaf gymaint o ofn marw a'r un dyn ar y ddaear, ond teimlwn ar adegau gydag ef na buasai waeth genyf farw na pheidio. Yr oedd yn hynod dawel a dirwgnach, a dywedais wrtho fy mod yn rhyfeddu ei weled mor hynaws a thirion, a hyny yn wyneb gwaeledd mor fawr.
Yr wyf,' ebe yntau, wedi penderfynu, er pan yn ddyn ieuangc, os cawn i byth fyw i fyned yn hen ŵr, am fod yn hen ŵr hynaws.'
Y tro diweddaf y bu yn ein tŷ ni, yr oedd Mary Rowlands, fy ngwraig, yn ei gynorthwyo i ddiosg ei coat, gael iddo fyned i orphwys; ac wrth ei weled mor wael, dywedodd wrtho,
'Buasech yn ddedwydd iawn, Mr. Humphreys bach, pe buasech yn y nefoedd.'
Yn wir, Mary bach,' meddai yntau, 'mae arnaf ofn y nefoedd; pe buasai rhyw le canol, hwnw fuasai yn fy ffitio i.' Ond pan aeth Mary Rowlands i edrych am dano ar ol hyn, dywedai
'Wel yr wyf yn gallu dyweyd wrthych heddyw fy mod yn siwr o'r nefoedd.'
Daeth hen chwaer arall i ofyn am dano, a gofynodd iddo ра fodd yr oedd yn teimlo?
Hapus iawn,' meddai yntau, mae fy holl ddymuniadau yn dderbyniadau heddyw.'
Dro arall pan y gofynem iddo pa fodd y byddai?
Da iawn, yr wyf yn gallu diolch heddyw,' fyddai ei ateb yn aml. Nid annghofiaf byth yr agwedd addolgar fyddai arno; rhoddai ei ddwylaw yn mhleth, a chyfodai hwy i fyny yn aml, a pharhaodd i wneyd hyny hyd nes aeth yn rhy wan i'w cynal. Bum lawer gwaith yn ei gynorthwyo i'w dal i fyny, fel Aaron a Hur gyda Moses, a byddwn yn dyweyd wrtho y byddai i mi ei gynorthwyo hyd nes y byddai iddo orchfygu. O y ddau lygaid glân a wnaeth arnaf y pryd hwnw. Yr ydych yn credu y byddwch yn orchfygwr,